Mae S4C wedi ennill hawliau ecsgliwsif i ddarlledu dwy gêm gyfeillgar bwysig i Gymru, yn erbyn Lwcsembwrg a Gwlad yr Iâ, wrth i’r tîm cenedlaethol ymbaratoi ar gyfer gêmau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Bydd S4C yn dangos Lwcsembwrg yn erbyn Cymru yn ei chyfanrwydd o’r Stade Josy Barthel yn Ninas Lwcsembwrg nos Fercher, 26 Mawrth mewn rhifyn arbennig o Y Clwb Pêl-droed Rhyngwladol.
Bydd y Sianel hefyd yn dangos uchafbwyntiau ecsgliwsif o gêm Cymru Dan 21 yn erbyn Bosnia Herzegovina, gêm sy’n dyngedfennol i ymgyrch y tîm ym Mhencampwriaeth Ewrop UEFA dan 21 2007/2009. Gallwch weld yr uchafbwyntiau hyn yn syth ar ôl gêm fyw Lwcsembwrg v Cymru.
Bydd S4C hefyd yn darlledu gêm Gwlad yr Iâ yn erbyn Cymru’n fyw ar ddiwedd Mai.
Lwcsembwrg yn erbyn Cymru yw’r gêm gyntaf i gael ei chynhyrchu gan Rondo Media Ltd - cyfuniad o gwmnïau teledu Nant ac Opus TF. Enillodd Rondo Media’r cytundeb i ddarparu cynnwys pêl-droed rhyngwladol Cymru; pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru i S4C yn dilyn proses tendr agored.
Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys, Chwaraeon S4C, “Ar ôl y canlyniad gwych yn erbyn Norwy, llwyddiant Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr a thymor arbennig Abertawe yn y gynghrair, mae yna gryn ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru ar hyn o bryd. Wrth ddangos y ddwy gêm yn fyw ac yn ecsgliwsif yn ogystal ag uchafbwyntiau llawn o gêm y tîm dan 21 yn erbyn Bosnia, mae S4C unwaith eto’n dangos ei hymrwymiad i bêl-droed Cymru.
“Mae’n gyfnod cyffrous wrth i John Toshack adeiladu seiliau cadarn i ymgyrch y tîm i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Y Byd yn 2010 ac wrth i’r tîm dan 21 geisio cyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau dan 21 Ewrop. Mi fydd y gêmau yma’n estyniad naturiol a phwysig o’n darpariaeth o bêl-droed cenedlaethol ac i’n portffolio chwaraeon.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?