Sioe arbennig Pentre Bach yn teithio o amgylch Cymru
14 Ebrill 2008
Bydd llu o wynebau cyfarwydd o gyfres blant boblogaidd S4C, Pentre Bach, yn ymddangos mewn sioe arbennig i blant meithrin sy’n teithio ledled Cymru.
Bydd cyfle i’r plant fwynhau hynt a helynt Sali Mali, Jac y Jwc a Bili Bom Bom yn y sioe, Pen-blwydd Pwy? Bydd hefyd ymddangosiad arbennig gan gyflwynwraig Planed Plant Bach, Rachael Solomon.
Gan ddechrau yng Nghaerffili ar fore Llun, 21 Ebrill, bydd y sioe yn ymweld â deg o leoliadau ar draws y wlad yn ystod yr wythnos fel rhan o daith S4C a Twf, mudiad sy’n annog rhieni i fagu eu plant yn ddwy ieithog.
Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Dyma gyfle arbennig ac unigryw i’r plant weld sioe fyw gyda chymeriadau maent yn gyfarwydd â gweld ar y teledu.”
Meddai Meryl Pierce ar ran Twf, “Mae’n grêt cael y cyfle i gydweithio gyda S4C ar y daith hon. Mae’n gyfle gwych i ni gael rhannu neges Twf gyda rhieni am werth cyflwyno’r Gymraeg yn y cartref. Mae gwylio rhaglenni Cymraeg fel Planed Plant Bach yn ffordd wych iddynt glywed yr iaith.”
Diwedd
Dyma fanylion lleoliadau'r Daith:
Llun, 21 Ebrill Canolfan Hamdden Caerffili 10.00am
Canolfan Hamdden Aberdâr 1.30pm
Mawrth, 22 Ebrill LC, Abertawe 10.00 am
Neuadd Bronwydd, Bronwydd, Caerfyrddin 1.30pm
Mercher, 23 Ebrill Canolfan Morlan, Aberystwyth 10.00am
Neuadd Glantwymyn, Glantwymyn 1.30pm
Iau, 24 Ebrill Y Ganolfan, Porthmadog 10.00am
Neuadd y Capel, Ffordd Caergybi, Bangor 1.30pm
Gwener, 25 Ebrill Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl 10.00am
Canolfan Hamdden Penllyn, Y Bala 1.30pm
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?