S4C yn ennill gwobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd
21 Ebrill 2008
Mae cynhyrchwyr rhaglenni S4C yn dychwelyd o’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Galway, Iwerddon gydag amrywiaeth o wobrau rhyngwladol pwysig.
Enillodd rhaglenni S4C bedair gwobr am raglenni o bob math, wrth i gynnyrch y Sianel dderbyn canmoliaeth gan reithgor o feirniaid o Weriniaeth Iwerddon, Yr Alban, Llydaw, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Chymru.
Enillodd Fflic, sy’n rhan o Grwp Cwmniau Boomerang, y categori Ffeithiol am ei ffilm ddogfen bwerus O’r Galon: Martin Thomas. Mae’r rhaglen sy’n rhan o’r gyfres O’r Galon lwyddiannus yn dilyn brwydr un dyn i goncro atal dweud difrifol.
Fe wnaeth ffilm ddogfen ddirdynnol arall ennill categori’r Portread Chwaraeon. Wedi’i chynhyrchu gan Nant, mae Wynebau Newydd: Merch y Gadair Ddur yn dilyn ymdrech Nicola Bee i chwarae rygbi cadair olwyn ar y lefel ryngwladol uchaf.
Rhaglen arall am rygbi enillodd y categori Addysg i Gwmni Da o Gaernarfon. Mae Rygbi 100%, a gyflwynir gan Sarra Elgan a’r mewnwr rhyngwladol Dwayne Peel ac sy’n croesawu llond wybren o sêr rygbi eraill, yn cyfrwyo sgiliau rygbi mewn ffordd fywiog a dyfeisgar i blant.
Cafodd enw da S4C fel comisiynydd animeiddio o’r safon uchel ei ategu eto wrth i’r gyfres Holi Hana ennill y categori Animeiddio. Wedi’i chynhyrchu gan y cwmni animeiddio annibynnol Calon, mae ail gyfres am yr hwyaden gymwynasgar ar droed.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae cynhyrchwyr rhaglenni S4C wedi creu cryn argraff yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni. Mae’n deyrnged i ymroddiad a chreadigrwydd ein sector cynhyrchu eu bod wedi llwyddo mewn gŵyl ryngwladol lle yr oedd rhagor na 400 o enwebiadau. Hoffwn eu llongyfarch i gyd am eu llwyddiant.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?