28 Ebrill 2008
Mae cynyrchiadau S4C wedi ennill unarddeg o wobrau yn seremoni Bafta Cymru 2008.
Enillodd y sebon boblogaidd Rownd a Rownd y wobr am y Rhaglen Ieuenctid Orau ac enillodd Rhodri Evan gategori’r Actor Gorau am ei bortread o Balders yn Cowbois ac Injans. Daeth Calon Gaeth i’r brig yng nghategori’r Ddrama Orau/Gyfresol Orau Ar Gyfer Teledu ac enillodd Y Pris, drama herfeiddiol S4C am deulu o gangsters, y wobr am y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.
Roedd marwolaeth Ray Gravell yn 2007 yn golled enfawr i’r byd darlledu a chwaraeon. Dangosodd tîm BBC Cymru eu doniau creadigol a’u proffesiynoldeb o dan amgylchiadau anodd wrth gynhyrchu’r rhaglen deyrnged deimladwy, Grav – Ray o’r Mynydd, a enillodd y wobr am Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau, ac Angladd Ray Gravell a enillodd gategori’r Criw Byw/O.B. Gorau.
Enillodd y rhaglen ddogfen unigol Fel Arall, oedd yn olrhain profiadau pobl hoyw yng Nghymru, y wobr am Y Cyfarwyddwr Gorau, i Nia Dryhurst.
Holi Hana, cyfres am hwyaden arbennig sy’n rhedeg llinell gymorth i anifeiliaid bach, enillodd y wobr am yr Animeiddio Gorau. Enillodd gwefan hwyliog Planed Plant Bach y wobr am Y Cyfryngau Newydd Gorau o Fewn Ffilm neu Deledu.
Llwyddodd rhifyn arbennig o’r gyfres Mawr, Sioe P.C. Leslie Wynne, yn y categori Adloniant Ysgafn Gorau. Enillodd y gyfres rasio pwynt-i-bwynt, Rasus ar Garlam, y wobr am Y Golygydd Gorau.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rwy’n hynod o falch fod cynifer o gynyrchiadau S4C wedi dod i’r brig mewn ystod o wahanol gategorïau. Mae’r gwobrau hyn yn gydnabyddiaeth o ddoniau creadigol a sgiliau technegol ein partneriaid yn y sector annibynnol a BBC Cymru. Llongyfarchiadau i bawb.”
Diwedd
Rhestr o wobrau Bafta Cymru S4C:
Y Ddrama Orau/Gyfresol Orau Ar Gyfer Teledu
Calon Gaeth
Greenbay
Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau
Grav – Ray o’r Mynydd
BBC Cymru
Yr Adloniant Ysgafn Gorau
Mawr ‘Sioe P.C. Leslie Wynne’
Alfresco, rhan o Boomerang Plus ccc
Y Rhaglen Ieuenctid Orau
Rownd a Rownd
Rondo
Yr Animeiddio Gorau
Holi Hana
Calon
Y Cyfryngau Newydd Gorau o Fewn Ffilm neu Deledu
Planed Plant Bach
Cube Interactive
Y Golygydd Gorau
Rasus ar Garlam
Apollo, rhan o Boomerang Plus ccc
Y Criw Byw/O.B. Gorau
Angladd Ray Gravell
BBC Cymru
Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau
John Hardy/Rob Love - Y Pris
Fiction Factory
Y Cyfarwyddwr Gorau
Nia Dryhurst - Fel Arall
Greenbay
Yr Actor Gorau
Rhodri Evan - Cowbois ac Injans
Rondo