Mae S4C yn cyflwyno delwedd brand newdd fydd yn arwain y Sianel at yr oes ddigidol-yn-unig a thu hwnt.
Mae’r brand newydd, a lansir ar 18 Ionawr, yn cyflwyno diwyg ac agwedd gyfoes a fydd i’w gweld ar wasanaethau S4C ar yr awyr, oddi ar yr awyr ac ar-lein. Mae’n cymryd lle'r brand presennol a ddefnyddiwyd ers 1993.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Mae’r brand newydd yn adlewyrchu agenda S4C ar gyfer rhagoriaeth greadigol. Mae’n dangos hyder o’r newydd yn ein cynnwys a bydd yn helpu rhoi amlygrwydd i’r Sianel fel darlledwr aml-lwyfan yn yr amgylchfyd digidol.”
Ychwanegodd Dylan Griffith, Ymgynghorydd Creadigol S4C a Chyfarwyddwr Creadigol yr holl brosiect, “Er bod hunaniaeth a thôn llais y brandio newydd yn gynhenid Gymreig, rydym wedi osgoi eiconau Cymreig traddodiadol. Ein nod yw adlewyrchu apêl eang a chyfoes rhaglenni S4C.”
Gwnaed y gwaith ail-frandio gan Proud Creative. Enillodd Proud y cytundeb ar ôl curo rhestr fer o bum cwmni, gan dynnu ynghyd tîm oedd yn cynnwys adain ymgynghorol onedotzero a chriw cynhyrchu creadigol Rare.
Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Proud, Dan Witchell, “Diolch i’r cydweithio creadigol a pharodrwydd S4C i fod yn gwbl agored i’n syniadau, rydym wedi cael y cyfle i gynnig delwedd a golwg hollol newydd i gynulleidfa ehangach.”
Mae’r gyfres gychwynnol o ffilmiau hyrwyddo yn seiliedig ar y syniad o berthyn ac o atyniad. Fe wnaeth y cyfarwyddwr arobryn Simon Ratigan roi ei stamp gweledol arbennig ei hun ar y gwaith creadigol.”
Fe saethwyd y ffilmiau hyrwyddo byrion mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled Cymru.
Ymhlith y cyfranwyr eraill i’r prosiect mae Minivegas, Freefarm, Acid Casuals, Marc Ortmans, Folk Design, Rushes, John Hill, Ariane Geil a Lineto.
Ychwanegodd Dylan Griffith, “Rydym yn hyderus y bydd y brand newydd yn codi chwilfrydedd gwylwyr ac yn eu difyrru ar yr un pryd, gan roi delwedd a golwg cofiadwy a nodedig iawn i S4C.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?