Penodwyd Garffild Lloyd Lewis yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu newydd S4C.
Bydd Garffild, sy’n dechrau ar ei swydd ar 9 Mawrth, yn atebol i’r Prif Weithredwr, Iona Jones ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr S4C.
Bu’n aelod o adran newyddion BBC Cymru am 25 mlynedd, lle enillodd brofiad helaeth o reoli a chynhyrchu ym maes radio a theledu. Bu’n gweithio fel Golygydd Newyddion ac fel Dirprwy Bennaeth Newyddion dros dro a bu hefyd yn gyfrifol am brosiectau hyfforddi niferus.
Ar hyn o bryd, mae Garffild yn rhedeg cwmni TrawsGyfrwng Cyf, sy’n cynnig gwasanaeth ymgynghori a hyfforddiant ym maes darlledu.
Yn ei swydd newydd, fe fydd yn arwain strategaeth gyfathrebu S4C wrth i Gymru baratoi ar gyfer y newid llwyr i ddigidol o fis Awst eleni ymlaen. Fe fydd yn gyfrifol am berthynas S4C gyda’r gynulleidfa a rhanddeiliaid eraill drwy holl weithgareddau’r wasg, marchnata, y we a chyfathrebu mewnol.
Fe fydd Garffild wedi’i leoli yn swyddfa newydd S4C yn Noc Fictoria, Caernarfon gan dreulio cyfnodau rheolaidd ym mhencadlys S4C yng Nghaerdydd.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae ystod profiad Garffild yn gaffaeliad mawr i S4C ar adeg o gyfleoedd newydd a’r heriadau ddaw yn sgil y trosglwyddiad i ddigidol. Bydd ei allu i arwain, ei adnabyddiaeth o anghenion y gynulleidfa a’i ymrwymiad i godi lefelau sgiliau yn ein diwydiant yn allweddol i lwyddiant S4C yn y blynyddoedd nesaf.”
Meddai Garffild Lloyd Lewis, “Mae’r cyfnod nesaf ym myd darlledu yn mynd i fod yn gyffrous iawn. Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at wynebu’r her ac at ymuno â’r tîm yn S4C.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?