Bydd S4C yn darlledu gêm ragbrofol y Rhyl yn erbyn pencampwyr Serbia, FK Partizan, o ddinas Belgrad yng Nghynghrair y Pencampwyr yn fyw ac yn ecsgliwisfi o gae Belle Vue ar nos Fawrth, 14 Gorffennaf.
Bydd cyfres bêl-droed S4C, Sgorio, yn y Rhyl i ddarlledu cymal cyntaf y gêm yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, y gêm fwyaf yn hanes Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru.
Mae’r Rhyl yn wynebu talcen go galed yn erbyn Pencampwyr Serbia, sydd â record wych yn Ewrop sy’n cynnwys cyrraedd rownd derfynol Cwpan Ewrop rai degawdau yn ôl.
Mae Sgorio, a gynhyrchir gan gwmni Rondo, yn darparu gemau byw ac uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Cymru a’r gorau o rai o gynghreiriau mawr Ewrop yn ystod y tymor pêl-droed.
Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson: “Rydym yn edrych ymlaen at ddarlledu’r gêm ragbrofol hon yng Nghynghrair y Pencampwyr. Mae’n adlewyrchu ein hymroddiad i ddangos y gorau o bêl-droed Cymru ac Ewrop ac i ddarparu rhaglenni byw o amrediad o ddigwyddiadau yng Nghymru.”
Tîm Sgorio ar y noson fydd Gareth Roberts yn cyflwyno a Morgan Jones ar ochr y cae. Nic Parry a Malcolm Allen fydd yn y blwch sylwebu a Dai Davies yn dadansoddi yn y stiwdio.
Fe chwaraeodd y cyn chwaraewr rhyngwlad0l John Hartson nifer o gêmau yng Nghynghrair y Pencampwyr gyda’r cewri o’r Alban, Celtic, ac mae’n edrych ymlaen yn arw at y gêm.
Meddai John Hartson “Mae her anodd yn wynebu’r Rhyl ond nhw yw Pencampwyr Cymru a chafon nhw dymor gwych o dan arweiniad Allan Bickerstaff. Mae sioc yn bosibl, yn enwedig gan fod y cymal cyntaf gartre’ yn Belle Vue.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?