Dathlu llu o ddigwyddiadau yn Llandudno gyda Rhydian
20 Chwefror 2009
Bydd Rhydian Roberts ac S4C yn ei hel hi am ardal Llandudno ar gyfer pythefnos o ddigwyddiadau fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi.
Mae’r canwr poblogaidd, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth X Factor 2007, yn ymddangos mewn cyngerdd arbennig yn y dref ar lan y môr. Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar S4C yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ymysg yr uchafbwyntiau eraill fydd cystadleuaeth Cân i Gymru, a gyflwynir yn fyw o Venue Cymru, Llandudno, gan Sarra Elgan a Rhodri Owen ar Fawrth 1.
Mae S4C hefyd yn estyn gwahoddiad i ddysgwyr Cymraeg yr ardal i ddarganfod mwy am wasanaeth rhyngweithiol cyffrous newydd S4C i ddysgwyr ar www.s4c.co.uk
Bydd y Noson Dysgwyr yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno Nos Lun 9 Mawrth (7.00pm) pan fydd cyfle i fwynhau rhagolwg o’r gyfres newydd, Angell yn India, gyda’r cyflwynydd a’r gomedïwraig Beth Angell.
Mae’r gweithgareddau, sy’n dechrau ddydd Llun 23 Chwefror ac yn parhau tan ddydd Iau 5 Mawrth, hefyd yn cynnwys taith ysgolion a chyfle i blant ymweld â Bws Cyw.
Bydd cyflwynwyr rhaglenni poblogaidd Y Garej, Sgorio a Dawnstastig yn ymweld ag ysgolion lleol i siarad â disgyblion.
Ddydd Sadwrn 28 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth, bydd Bws Cyw wedi ei leoli ar dir Eglwys y Drindod Sanctaidd, lle bydd y plant yn gallu mwynhau taith hudolus o gwmpas Byd Cyw. Bydd y bws hefyd yn stopio mewn amryw o ysgolion a lleoliadau yn ystod yr wythnos.
Gall plant bach yr ardal gwrdd â ffrind gorau Sali Mali, Jac y Jwc o’r gyfres Pentre Bach, yn siop Waterstones Llandudno lle bydd yn cynnal sesiynau darllen ar 28 Chwefror a 1 Mawrth.
Bydd y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol hefyd yn ffilmio rhifyn arbennig yn Llandudno.
Am fwy o fanylion am unrhyw un o’r digwyddiadau yma, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?