02 Mawrth 2009
Tri Chynnig i Gymro - a Chymraes - oedd hi yn ffeinal cystadleuaeth Cân i Gymru S4C a gynhaliwyd Ddydd Gŵyl Dewi a’i ddarlledu’n fyw ar y sianel.
Y gân a enillodd oedd Gofidiau, a gyfansoddwyd gan Elfed Morgan Morris o Ddeiniolen a Lowri Watcyn Roberts o Dregarth, ill dau’n athrawon Cymraeg sydd wedi ennill cystadleuaeth cyfansoddi carol S4C ddwywaith. Dyma hefyd oedd y trydydd tro i Elfed ganu yn ffeinal Cân i Gymru.
Roeddent wrth eu boddau ar ôl ennill y brif wobr o £10,000, gan gyfaddef eu bod wedi teimlo’n hynod o nerfus wrth ddisgwyl canlyniad y bleidlais derfynol, oedd yn cyfuno pleidleisiau’r panel o arbenigwyr yn y stiwdio a phleidleisiau’r gwylwyr gartref.
“Mi roedden ni’n teimlo fod y caneuon eraill yn y ffeinal i gyd o safon uchel, ac y byddai hi’n gystadleuaeth agos,” meddai Elfed, a ddenodd y gynulleidfa yn y stiwdio i sefyll ar eu traed gyda’u berfformiad o’r gân fuddugol, Gofidiau.
“Mae Cân i Gymru wedi bod yn rhan fawr o fywydau Lowri a minnau ers tri mis wrth inni baratoi ar gyfer y noson fawr, ac rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan ddisgyblion yr ysgolion lle rydym yn dysgu - Ysgol John Bright, Llandudno, lle dwi’n athro, ac Ysgol Brynrefail yn Llanrug, lle mae Lowri yn gweithio. Rydym hefyd wedi derbyn cefnogaeth wych gan y gynulleidfa heno.”
Anfonwyd mwy o ganeuon nag erioed o’r blaen i’r gystadleuaeth eleni, a theimla Lowri Watcyn Roberts fod yr hwb yma i gyfansoddwyr Cymraeg yn agwedd bwysig ar gystadleuaeth Cân i Gymru. “Mae ennill yn fonws ffantastig, wrth gwrs, ond dwi’n meddwl mai’r hyn sy’n bwysig yw bod y gystadleuaeth hon eleni wedi ysbrydoli cyfansoddwyr i sgwennu 120 o ganeuon newydd Cymraeg,” meddai.
Yn ail yn y gystadleuaeth, gan ennill £2,000, oedd Tesni Jones a Ceri Bostock o Gaernarfon gyda’u cân, Gafael yn y fy Llaw, a gafodd ei chanu gan Tesni ei hun. Yn drydydd oedd Merfyn Hughes o Ddinas ger Caernarfon a Steve Pablo Jones o Gaernarfon gyda’u cân, Fy Enaid Gyda Ti, gan ennill £1,500. Angharad Brinn a ganodd y gân hon.
Roedd cyfarwyddwr cerdd y gystadleuaeth, Owen Powell, wrth ei fodd gyda’r ymateb i’r wyth gân yn y ffeinal eleni, a gyflwynwyd gan Sarra Elgan a Rhodri Owen.
“Yn y blynyddoedd dwi wedi bod yn gweithio ar Cân i Gymru, dyma’r awyrgylch orau rydym erioed wedi ei chael,” meddai. “Daeth pob dim at ei gilydd ar y noson ac mi gafodd y gynulleidfa yn y stiwdio a’r gwylwyr gartref glywed caneuon da wedi eu perfformio’n dda. Mae’n rhaid inni gofio na fyddai’r rhaglen yn ddim heb y caneuon.”
Bydd Elfed Morgan Morris a Gofidiau yn awr yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd fydd yn cael ei chynnal yn nhref Donegal, Iwerddon ym mis Ebrill.
Roedd Rhydian Roberts o’r X-Factor yn aelod o’r panel beirniaid, ac mi wnaeth hefyd berfformio ar y noson. “Mae bod yn aelod o banel Cân i Gymru wedi bod yn brofiad gwych, mae’n braf bod ar yr ochr arall o’r ffens, yn eistedd yn sedd Simon Cowell!” meddai gyda gwên.