S4C yn ymestyn ei chytundeb darlledu Cwpan Heineken
19 Mehefin 2009
Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd yn parhau i ddarlledu uchafbwyntiau daearol estynedig o’r Cwpan Heineken am bum mlynedd pellach.
Mae’r Sianel wedi ymestyn ei chytundeb gyda'r ERC, trefnwyr cystadleuaeth y Cwpan Heineken, i ddarlledu uchafbwyntiau estynedig o brif gystadleuaeth rygbi Ewrop hyd at ac yn cynnwys tymor 2013/14.
S4C yw’r unig ddarlledwr daearol sydd ar hyn o bryd yn dangos uchafbwyntiau o’r Cwpan Heineken. Mae’r cytundeb presennol yn para hyd at dymor 2009-10, gyda’r cytundeb newydd yn sicrhau hawliau am bedair blynedd pellach.
Mae’r rhaglen Cwpan Heineken yn dangos uchafbwyntiau llawn o holl gemau Rhanbarthau Cymru yn y Cwpan Heineken a Chwpan Her Ewrop, yn ogystal â’r gemau grŵp eraill, y Chwarteri, y Rowndiau Cynderfynol a’r Rownd Derfynol.
Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae S4C yn falch iawn o gael parhau i ddarparu arlwy o brif gystadleuaeth rygbi Ewrop yn rhad ac am ddim ar gyfer ein gwylwyr. Mae ein rhaglenni Cwpan Heineken yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ddilynwyr rygbi ac yn ategu ein darpariaeth arall o raglenni rygbi byw ac uchafbwyntiau, sy’n cynnwys Taith y Llewod i Dde Affrica, gemau rhyngwladol Cymru a’r Cynghrair Magners.”
Ychwanegodd Derek McGrath, Prif Weithredwr yr ERC, “Mae S4C wedi bod yn bartner darlledu ardderchog i’r ERC yn ystod y pedwar tymor diwethaf, gan gynnig pecynnau uchafbwyntiau cynhwysfawr o’r ansawdd uchaf o’r Cwpan Heineken ar gyfer y farchnad Gymreig a Chymraeg.
“Mae ymestyn perthynas yr ERC gydag S4C, ynghyd â selio cytundebau darlledu eraill, yn dangos yn glir bod y Cwpan Heineken wedi datblygu’n gystadleuaeth Ewropeaidd gydag apêl fyd-eang
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n perthynas gydag S4C dros y pum mlynedd nesaf, gan gynyddu proffeil y gystadleuaeth hyd yn oed yn fwy.”
Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau prawf cyntaf y Llewod yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn, 20 Mehefin am 9.00pm. Bydd gwylwyr yn gallu mwynhau uchafbwyntiau daearol estynedig o bob gêm ar Rygbi/Llewod 09 yr un noson â’r gêm.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?