Bydd ffermwyr yn gallu gwylio'r pecynnau newyddion amaeth diweddaraf ar y we pan fydd y Bwletin Ffermio yn troi'n wasanaeth ar-lein ar ffermio.tv o 1 Mai ymlaen.
Bydd y bwletin ar gael i'w wylio yn rhad ac am ddim ac ar alw unrhyw amser o'r dydd a'r nos am hyd at 35 diwrnod mewn datblygiad cyffrous newydd.
Bydd y gwasanaeth yn darparu pecynnau byrion am y pynciau diweddaraf sy'n effeithio'r diwydiant amaeth.
Bydd S4C hefyd yn darparu mwy fyth o raglenni am ffermio a chefn gwlad yn ystod yr oriau brig gan fod cyfres Ffermio S4C nawr yn parhau hyd ganol Gorffennaf, cyn cael hoe dros yr haf
Mae Ffermio, sy'n cael ei darlledu ar nosweithiau Llun am 8.25pm a'i chyflwyno gan Iola Wyn, Daloni Metcalfe, Alun Elidyr a Mererid Wigley, yn ymdrin â materion yn gysylltiedig â chefn gwlad yng Nghymru a thu hwnt. Mae S4C hefyd yn bwriadu ymestyn hyd y gyfres dros y tair blynedd nesaf.
Meddai Mererid Wigley, cynhyrchydd Ffermio a Golygydd Cynnwys Amaeth cwmni Telesgôp: "Rydym yn barod am yr her o ddarparu bwletin ffermio cyfredol a deinamig ar wefan ffermio.tv. Rydym ni yng nghwmni Telesgôp yn arbenigo mewn darlledu ar y we a byddwn yn sicrhau y bydd y Bwletin Ffermio, ynghyd â Ffermio, yn parhau i ddatblygu yn ffynhonnell wybodaeth bwysig ar gyfer ffermwyr."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson: "Mae S4C wedi llwyddo i sefydlu ei hun fel prif gyflenwr rhaglenni gwledig ac mae cynnwys o fewn y maes hwn yn chwarae rhan amlwg yn ein hamserlen. Mae'r gyfres Ffermio a'r bwletin amaeth ar-lein newydd yn amlygu'r ymroddiad hwn."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?