Bydd S4C yn darlledu’n fyw yn rhyngwladol o Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni.
Bydd darllediadau ar gael yn fyw ar y we, ar s4c.co.uk/sioe, ledled Prydain, Iwerddon, Yr Almaen, Awstralia, Seland Newydd, Yr Iseldiroedd, Sweden a Denmarc yn ystod yr wythnos.
Bydd y Sianel hefyd yn darlledu dros 50 awr o raglenni teledu, gan gynnwys rhaglen fore a phrynhawn bob dydd o’r Sioe, rhaglen awr o uchafbwyntiau gyda’r nos a rhaglenni drwy’r dydd o’r prif gylch a chylch y gwartheg ar S4C2.
Dai Jones, Nia Roberts, Nia Parry a Bethan Gwanas fydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda Wyn Gruffydd yn sylwebu ar ddigwyddiadau’r prif gylch ac Edward Tudor Jones yn sylwebu ar weithgareddau cylch y gwartheg.
Meddai Meirion Davies, Pennaeth Cynnwys S4C, "Mae gwasanaeth cynhwysfawr S4C o’r Sioe eleni yn tanlinellu ymrwymiad S4C i ddigwyddiadau byw Cymreig o bwys.
“Ry’n ni’n falch y bydd dilynwyr y Sioe ledled y byd yn cael cyfle i fwynhau holl fwrlwm a lliw'r digwyddiad unigryw hwn.”
Yn ystod yr wythnosau sy’n dilyn y Sioe bydd S4C yn darlledu pump rhaglen arbennig am wahanol weithgareddau’r digwyddiad. Bydd y gyfres yn cynnwys rhaglenni am bencampwyr y Sioe, gweithgareddau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc, y cystadlaethau cneifio a golwg tu ôl i’r llenni ar y digwyddiad ei hun.
Diwedd
Y Sioe/09
Dydd Llun i Ddydd Iau, 20-23 Gorffennaf, 10.00am, 2.00pm ac 8.25pm, S4C
Dydd Llun i Ddydd Iau, 20-23 Gorffennaf, 8.00am, S4C2 ar Sky a 10.00am ar Freeview
Gwefan: s4c.co.uk/sioe
Cynhyrchiad Boomerang Plus/ITV Cymru ar gyfer S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?