S4C fydd yr unig ddarlledwr i ddangos gêm Cymru yn erbyn Unol Daleithiau America yn fyw ac yn egscliwsif ddydd Sadwrn, 6 Mehefin.
Mewn rhifyn arbennig o Y Clwb Rygbi Rhyngwladol, bydd Gareth Roberts a chyn-glo Cymru, Derwyn Jones, yn cyflwyno o Stadiwm Toyota, Chicago. Huw Llywelyn Davies a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones fydd yn sylwebu gyda Cennydd Davies wrth yr ystlys a Brynmor Williams yn dadansoddi’r chwarae.
Bwriad hyfforddwr Cymru ar gyfer y daith, Robin McBryde, yw defnyddio cyfuniad o chwaraewyr profiadol a wynebau newydd, gyda'r criw yn cynnwys Dwayne Peel, Duncan Jones, Nicky Robinson, Gareth Williams a Daniel Evans.
Mae’r daith yn cynnig cyfle euraidd i rai o chwaraewyr ifanc Cymru brofi eu talent ar y llwyfan mawr ac i ennill eu plwy ar lefel ryngwladol. Bydd y to profiadol yn gobeithio cynnal eu safon ac ennyn diddordeb hyfforddwyr Cymru ar gyfer y tymor nesaf.
Camu i esgidiau'r hyfforddwyr arferol y bydd Robin wrth i Warren Gatland, Shaun Edwards a Rob Howley deithio i Dde Affrica ar gyfer Taith y Llewod.
“Mae’n golygu cryn dipyn i fi i gael fy newis fel hyfforddwr dros dro. Mae’n meddwl y byd i fi bod pobl fel Warren Gatland, ac Undeb Rygbi Cymru, wedi dangos hyder a ffydd yn fy ngallu i,” esbonia Robin.
Yn syth ar ôl y gêm fyw yn Chicago, bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau uchafbwyntiau gornest y Llewod yn erbyn y Cheetahs o Barc Vodacom, Bloemfontein. Yn ogystal, bydd y gorau o’r chwarae rhwng y Llewod a’r Sharks yn Durban i’w gweld nos Fercher, 10 Mehefin.
Y Clwb Rygbi Rhyngwladol: UDA v Cymru
Sadwrn, 6 Mehefin, 6.35pm, S4C
Isdeitlau Saesneg
Cynhyrchiad BBC Cymru
Rygbi/Llewod '09
Nos Sadwrn, 6 Mehefin, 9.15pm, S4C
Nos Fercher, 10 Mehefin, 10.00pm, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk/rygbi
Cyd-gynhyrchiad Sunset + Vine Cymru ac S.M.S. ar gyfer S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?