26 Ionawr 2010
Mae S4C i gynyddu ymhellach ei hymrwymiad i raglenni gwreiddiol i blant yn 2010 gyda llond gwlad o fentrau newydd.
Bydd gwasanaeth newydd ar gyfer plant 7 - 13 oed yn cael ei lansio ym mis Ebrill a bydd cynlluniau ar gyfer gwasanaeth newydd ar gyfer gwylwyr 13 oed a hŷn yn cael eu rhoi ar waith. Yn ogystal, bydd gwasanaeth meithrin Cyw yn cael ei ymestyn a bydd ar gael saith diwrnod yr wythnos am y tro cyntaf.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae S4C yn credu bod gwasanaethu plant yn rhan annatod o’i swyddogaeth fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ac rwy wrth fy modd ein bod ni’n gallu arddangos ein hymrwymiad parhaus i gynulleidfaoedd iau.
“Bydd tri gwasanaeth S4C yn creu effaith arwyddocaol yng Nghymru dros amser drwy ddarparu cynnwys sy’n taro deuddeg gyda phlant ac sydd o berthnasedd diwylliannol. Mae ymrwymiad a chreadigrwydd cynhyrchwyr yng Nghymru yn gaffaeliad amhrisiadwy i’r gwasanaethau hyn. Mae S4C yn edrych ymlaen at gydweithio gyda phawb sy’n rhannu’r ymroddiad yma tuag at wasanaethu anghenion plant.”
Bydd gwasanaeth newydd S4C ar gyfer plant 7 – 13 oed yn cael ei lansio ar 26 Ebrill eleni. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni ar y penwythnosau yn ogystal â phob prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cyhoeddir tendr ar 28 Ionawr ar gyfer trydydd cymal – yr olaf – o gynllun S4C i gyflwyno darpariaeth estynedig ar gyfer plant, gwasanaeth newydd sy’n targedu plant 13 oed a hŷn. Mae S4C yn disgwyl i’r gwasanaeth newydd gynnig ystod ac amrywiaeth o gynnwys ac i adlewyrchu bywyd pobl ifainc yng Nghymru.
Cyhoeddwyd tendr ar 22 Ionawr ar gyfer cytundeb tair blynedd o hyd i gynhyrchu cynnwys a dolenni ar gyfer gwasanaeth meithrin S4C, Cyw, a lansiwyd ym Mehefin 2008. Fel rhan o’r cytundeb newydd bydd darllediadau Cyw yn cael eu hymestyn i’r penwythnosau (ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig). Mae mwy o fanylion ar s4c.co.uk/cynhyrchu.
Dros y deuddeg mis diwethaf mae S4C wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel Brydeinig a rhyngwladol ar gyfer ei rhaglenni plant.
Ym mis Rhagfyr 2009, enillodd y ffilm deuluol Rhestr Nadolig Wil y categori Drama yng Ngwobrau Bafta Plant Prydain. Enillodd yr animeiddiad Holi Hana, sy’n adrodd hanes hwyaden annwyl sy’n helpu anifeiliaid ifainc i ddatrys eu problemau, y categori Rhaglen Blant Orau yng Ngwobrau Broadcast 2009, ac enillodd y gyfres sy’n cyflwyno plant bach i’r wyddor Gymraeg, ABC, y categori Plant yng Ngwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol 2009.
Mae tair o raglenni S4C wedi’u henwebu yng Ngwobrau cyntaf KidScreen, a gynhelir yn Efrog Newydd ym mis Chwefror. Mae Rhestr Nadolig Wil wedi ei henwebu, yn ogystal â’r gyfres ddrama ar gyfer pobl ifanc, Rownd a Rownd a’r animeiddiad yn seiliedig ar glasur Dylan Thomas, Nadolig Plentyn yng Nghymru.
Diwedd
Nodyn i’r golygydd
• Cyhoeddir y datganiad hwn yn wythnos cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi, The British film and television industries - decline or opportunity?
• Mae gwefan liwgar yn cyd-fynd â gwasanaeth Cyw. Ewch i s4c.co.uk/cyw am fwy o fanylion.