25 Mehefin 2009
Mae S4C a BBC Cymru Wales wedi sicrhau cytundeb newydd pedair blynedd i ddarlledu gemau Cynghrair Magners yn fyw tan 2014.
Mae’r cytundeb newydd rhwng y darlledwyr a Celtic Rugby – sy’n rhedeg Cynghrair Magners – yn golygu y bydd cefnogwyr rygbi yng Nghymru yn gallu gwylio gemau pedwar tîm Cymru yn fyw ar nos Wener ar Scrum V Live ar BBC Two Wales ac ar nos Sadwrn ar S4C ar Y Clwb Rygbi. Bydd y rygbi sydd ar y teledu hefyd ar gael i’w wylio eto ar wasanaeth ar-lein S4C, s4/clic a gwefannau’r BBC am saith diwrnod ar ôl ei ddarlledu am y tro cyntaf.
Mae’r cytundeb presennol yn rhedeg tan ddiwedd tymor 2009/10, a bydd y cytundeb newydd – sy’n cynnwys darlledu ar y teledu, ar radio ac ar-lein – yn rhedeg o dymor 2010/11 tan ddiwedd tymor 2013/14. Mae BBC Cymru ac S4C wedi darlledu’r gystadleuaeth ers iddi gael ei sefydlu gyntaf fel y Gynghrair Geltaidd yn 2001.
Meddai Golygydd Cynnwys Chwaraeon, S4C, Geraint Rowlands: “Mae S4C yn falch iawn o gael darlledu gemau’r Gynghrair Magners am bedair blynedd pellach. Rydym yn credu bod y cytundeb ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru yn cynnig y gwasanaeth cynhwysfawr hynny y mae cystadleuaeth rygbi o’r safon yma yn ei theilyngu. Byddwn yn parhau i ddarparu darllediadau byw o’r ansawdd uchaf bob penwythnos, fel arfer ar y Sadwrn, yng nghwmni tîm cyflwyno sy’n ennyn y parch mwyaf am eu gwybodaeth rygbi.”
Meddai Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales, Geoff Williams: “Mae’n wych y byddwn yn parhau â’n perthynas gyda Celtic Rugby er mwyn dangos gemau poblogaidd y Gynghrair Magners i’n cynulleidfa o gefnogwyr rygbi. Mae rhaglenni cynghrair bellach wedi ennill eu plwyf fel teledu y mae’n rhaid ei wylio, gan roi cystadleuaeth i bedwar rhanbarth rygbi Cymru yn erbyn y gorau sydd gan Iwerddon a’r Alban i’w gynnig. Yn ystod tymor 2008/09, roedd 300,000 o gefnogwyr rygbi’n gwylio rhaglenni rygbi Scrum V BBC Cymru bob wythnos, a chredwn y bydd cefnogwyr ledled Cymru’n cytuno ei fod yn newyddion gwych y bydd BBC Cymru yn parhau i ddarlledu’r gynghrair.”
Meddai John Hussey, Cyfarwyddwr Celtic Rugby:“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y caiff y cytundebau teledu gyda BBC Cymru ac S4C eu hadnewyddu unwaith eto, gan eu bod ill dau wedi bod yn bartneriaid darlledu o safon i gystadleuaeth o safon. Un mesur o statws Cynghrair Magners yw bod ei thimau wedi ennill Cwpan Heineken yn nhri o’r pedwar tymor diwethaf, a bod pedwar o’i thimau wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf cystadleuaeth eleni. Yn ogystal â hyn, roedd 11 chwaraewr o dimau Cynghrair Magners yn nhîm Llewod Prydain ac Iwerddon a ddechreuodd y gêm yn erbyn De Affrica dros y penwythnos, yn ogystal â chwe chwaraewr ymysg yr eilyddion, sy’n arwydd o dwf y gystadleuaeth. Bydd adnewyddu’r partneriaethau darlledu hyn yn parhau i wella profiad gwylio ac enw da’r gynghrair.”