Mae S4C wedi gwneud datganiad newydd o’i ymrwymiad i amrywiaeth, cyfle cyfartal a thriniaeth deg i’w staff, gwylwyr, ei gyflenwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Wrth lansio’r cynllun, dywedodd Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, fod yr ymrwymiad yn berthnasol i bob agwedd ar fusnes S4C fel cyflogwr, fel comisiynydd rhaglenni ac fel darparwr gwasanaethau i’w gynulleidfaoedd.
“Mae S4C yn awyddus i fynd tu hwnt i ddilyn gofynion y ddeddf ar ragfarn a chofleidio amrywiaeth mewn cyd-destun ehangach,” meddai Iona Jones. “Rydym am werthfawrogi ac arddangos yr ystod o nodweddion a phrofiadau, arddulliau cyfathrebu, ieithoedd, cefndiroedd addysgol, gyrfaoedd neu brofiadau bywyd sydd gan bobl.”
Ychwanega Iona Jones, “Trwy gyhoeddi’r ymrwymiad hwn, mae S4C yn cymryd rôl flaengar i hybu a chreu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amrywiaeth ymhlith staff a chyflenwyr rhaglenni. Bydd ein gwasanaethau yn elwa ar yr ymrwymiad hwn wrth iddynt ddod yn fwy cynrychiadol o’r cynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu.
“Bydd S4C yn gweithio’n agos gyda chynhyrchwyr i hyrwyddo delwedd gadarnhaol o amrywiaeth ar y sgrin.”
Ymhlith y camau gweithredu a gymerir gan S4C fel rhan o’i ymrwymiad i amrywiaeth mae:
• Cyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol.
• Sicrhau bod ei raglenni’n rhoi adlewyrchiad gwell o’r gymuned a’r gwylwyr mae’n eu gwasanaethu.
• Gweithio gyda phartneriaid yn y sector cynhyrchu i sicrhau bod eu gweithgareddau nhw’n gyson ag ymrwymiad S4C.
• Sicrhau bod ymrwymiad S4C i ddarparu gwasanaethau mynediad a chymorth mewn perthynas â’i rhaglenni a’i chynnwys yn dal i gael ei gyflawni.
• Darparu hyfforddiant amrywiaeth i bob aelod o’i staff.
• Cynnwys cyfrifoldebau penodol am amrywiaeth mewn disgrifiadau swydd.
• Creu amgylchedd gwaith cynhwysol a pharchus.
• Adolygiad blynyddol o’r ymrwymiad gan Fwrdd Cyfarwyddwyr S4C.
Dylai unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynghylch yr ymrwymiad hwn gael eu cyfeirio yn y lle cyntaf at S4C ar amrywiaeth@s4c.co.uk neu at ein Gwifren Gwylwyr ar 0870 6004141
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?