Mewn cyfarfod yn S4C, cytunwyd i sefydlu Fforwm Darlledu Cymraeg a fydd yn gyswllt uniongyrchol gyda chynulleidfa’r sianel.
Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn flynyddol yn y lle cyntaf gyda’r cyfarfod cychwynnol fis Mehefin eleni. Yn ogystal, fe fydd deialog gyson yn digwydd er mwyn atgyfnerthu a gwneud y gorau o’r bartneriaeth newydd.
Y cylch gorchwyl fydd adolygu’r ddarpariaeth ac ymdrin â materion darlledu Cymraeg a swyddogaeth y Sianel.
Meddai Dr Meredydd Evans ar ran Pwyllgor yr Ymgyrch Ddarlledu Cymraeg, “Rydym yn ddiolchgar i S4C am groeso cynnes iawn. Mae’r trafod wedi arwain at ganlyniad boddhaol iawn o’n sefyllfa ni. Mae’r cyfan wedi bod yn gadarnhaol ac yn argoeli’n dda tuag at y dyfodol.”
Croesawyd y datblygiad gan John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C. “Mae hon yn ffordd wych o gryfhau’r berthynas uniongyrchol rhwng S4C a’n gwylwyr ac edrychwn ymlaen am ddeialog ffrwythlon.”
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r Fforwm yn cynrychioli ystod eang o gymdeithasau Cymraeg sydd yn ganolog i’r bywyd Cymraeg ac, yn eu tro, i fodolaeth S4C. Bydd yr uniad hwn rhwng S4C a’r Fforwm yn ein harfogi i wynebu heriadau’r dyfodol gyda’n gilydd.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?