Bydd patrwm newydd i raglenni Pobol y Cwm o heddiw ymlaen.
Yn ogystal â’r darllediad arferol am 20:00, Llun-Gwener, bydd cyfle i wylio pennod y diwrnod blaenorol am 18:00 bob nos, gydag isdeitlau Saesneg agored ar y sgrin.
Bydd y penodau am 18:00 yn cynnig cyfle i wylwyr ddal lan â holl ddigwyddiadau Cwmderi ac yn galluogi gwylwyr di-Gymraeg a dysgwyr i ddilyn y gyfres yn rhwydd.
Cofiwch fod modd gwylio holl benodau’r wythnos yn y rhifyn omnibws, a ddarlledir ddiwedd prynhawn dydd Sul, sydd hefyd ag isdeitlau Saesneg agored ar y sgrin.
Mae Pobol y Cwm hefyd ar gael i'w wylio ar-lein ar s4c.co.uk/clic.
Diwedd
Pobol y Cwm
Llun–Gwener am 20:00, isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael.
Llun-Gwener am 18:00, isdeitlau Saesneg agored ar y sgrin.
Rhifyn omnibws bob prynhawn Sul, isdeitlau Saesneg agored ar y sgrin.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?