Mae S4C yn croesawu’r gydnabyddiaeth a roddir yn Adolygiad Hargreaves i rôl ganolog y sianel yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r ffaith fod S4C wedi bod, ac yn parhau i fod wrth galon datblygiadau allweddol ym mywyd economaidd a diwylliannol y genedl.
Rydym yn falch bod yr adolygiad yn nodi cyfraniad S4C tuag at lwyddiant y diwydiant cynhyrchu teledu annibynnol ledled Cymru ac yn canmol yr arweiniad mae’r sianel wedi ei roi ym meysydd datblygu a hyfforddi o fewn y diwydiant.
Mae S4C yn edrych ymlaen i fanteisio ar y cyfle i fod yn amlwg a llafar wrth rannu ei gweledigaeth a strategaethau ym maes darlledu ac yn awyddus i gydweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i adeiladu ar y cyfeiriadau yn yr adolygiad.
Croesawyd sylwadau’r Athro Hargreaves am y Sianel gan John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C. “Mae’r gydnabyddiaeth i rôl ganolog S4C o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn cadarnhau fod gweledigaeth y sianel yn gywir a chadarn. Edrychwn ymlaen at ddeialog ystyrlon ar yr argymhellion a wneir yn yr adroddiad gyda gweinidogion a swyddogion y Cynulliad.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?