29 Mawrth 2010
Bydd amrywiaeth o nwyddau yn seiliedig ar gyfresi plant S4C ar gael mewn siopau ledled Cymru o fewn y misoedd nesaf.
Bydd DVDs o rai o gyfresi mwyaf poblogaidd y Sianel gan gynnwys Pentre Bach, Sam Tân a Sali Mali, yn ogystal â nwyddau Cyw ar gael cyn hir.
Mae’r nwyddau’n cael eu cynhyrchu fel rhan o gytundeb newydd a wobrwywyd i gwmni Sain gan S4C yn dilyn proses dendr agored.
Diwedd