Mae Tywysog Cymru wedi canmol prosiect Y Porthmon S4C yn ystod ei ymweliad â thref Llanwrtyd yng nghanolbarth Cymru heddiw (1 Gorffennaf).
Wrth i Dywysog Charles barhau ar ei daith o amgylch Cymru yr wythnos hon, mae S4C hefyd wedi bod ar dramp yn ail-greu taith y porthmyn o Fachynlleth i Aberhonddu yn y rhaglen Y Porthmon.
Daeth y ddau fyd ynghyd yn nhref Llanwrtyd wrth i’r Tywysog a’i wraig Duges Cernyw, ymweld â Neuadd Victoria yn y dre i weld arddangosfa o ddillad o’r 1930au a chasgliad o luniau o borthmyn a dynnwyd gan blant ysgol lleol.
Tra’r oedd yno, cafodd ei gyfweld gan Shân Cothi, cyflwynydd cyfres Y Porthmon, sydd yn cael ei darlledu bob nos yr wythnos hon ar S4C.
Roedd Ei Fawrhydi yn ganmoliaethus iawn o’r prosiect o ail-greu’r daith a’r syniad o greu rhaglen deledu.
Meddai Tywysog Charles: “Mae’r hyn yr ydych yn ei wneud yn syniad ardderchog - mae’n wych. Mae hanes y porthmyn yn un mor ddiddorol. Doeddwn i ddim wedi llawn werthfawrogi’r hyn yr oeddent yn ei gyflawni tan imi ddarllen amdanynt yn ddiweddar. Roeddent yn teithio pellteroedd mawr. Roedd rhai yn teithio’r holl ffordd o ganolbarth Cymru i Swydd Gaint ac fe allai gymryd tair wythnos. Roedd y frawdoliaeth yn eu mysg yn rhyfeddol mae’n rhaid.”
Wrth i Shân gyfweld â’r Tywysog, roedd porthmon S4C, Ifan Jones Evans, yn parhau ar ei gymal olaf ond un ar y daith, o Dregaron i Lanwrtyd wrth ail-greu taith y porthmon Dafydd Isaac yn y 1930au rhwng Machynlleth ac Aberhonddu.
Mae Ifan wedi bod fel lladd nadroedd yn paratoi am y daith wythnos o hyd lle mae wedi cael cymorth y bugail Erwyd Howells, a chwmni ei gi, Nan.
Mae’r cyflwynydd wedi cael ei siomi ar yr ochr orau gan y croeso a’r gefnogaeth a dderbyniodd gan gymunedau lleol gydol yr wythnos.
Meddai Ifan, mab ffarm o Bontrhydygroes, said, “Mae’n gymaint o hwb cwrdd â’r cyhoedd ar hyd y daith. Mae’r her yma’n un gorfforol a meddyliol ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn help mawr ar hyd y ffordd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dod allan i gwrdd â mi.”
Gallwch ddilyn taith Y Porthmon heno (nos Iau) am 20:25, nos fory (nos Wener) a nos Sadwrn ar S4C.