Mae Fferm Ffactor yn ei ôl ac mae S4C wedi datgelu’r deg ffermwr fydd yn cystadlu yn ail gyfres y gystadleuaeth ffermio.
Bydd y cystadleuwyr - tair menyw a saith dyn, rhwng 27 a 46 oed o bob cwr o Gymru - yn wynebu cyfres o sialensiau arbennig ar y fferm yn ystod y gyfres, sy’n ail-gychwyn nos Iau 10 Mehefin am 20:25 gyda rhifyn awr o hyd.
Bob wythnos bydd y deg yn gorfod creu argraff ar feirniaid swyddogol y gyfres - Llywydd Sioe Frenhinol Cymru 2010, Dai Jones, a Chyn-bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Amaethyddol Harper Adams yn Swydd Amwythig, yr Athro Wynne Jones. Yn cadw’r ddisgyl yn wastad rhwng y ddau ac yn sicrhau eu bod yn dod i benderfyniad fydd y gyflwynwraig Daloni Metcalfe.
Mae gan Ogledd Cymru gynrychiolaeth gref ymysg y deg, gan gynnwys Glyn Roberts, sy’n 46 oed o Langadfan, ger Y Trallwng. Mae’r ffarmwr defaid wedi gweithio ar yr un fferm yn Llanerfyl ers 30 mlynedd.
Yn ymuno â Glyn fydd Iwan Huws (37) o Fodedern, Ynys Môn ac mae’n cyfaddef mai ei darged wrth gystadlu ar Fferm Ffactor yw goroesi’r wythnos gyntaf.
Mae Iwan Price o Gerrigydrudion, ger Corwen, yn 40 mlwydd oed ac yn ei amser sbâr, mae’n mwynhau actio gyda’i grŵp drama leol a chadw trefn ar ei bedwar plentyn!
Bydd tair menyw yn cystadlu i gipio Coron Fferm Ffactor 2010 ac mae Catrin George, 33, o Frechfa ger Caerfyrddin, yn un ohonynt. Mae Doris Jones (46) o Landeilo hefyd yn y gystadleuaeth ac mae hi’n cyfuno ei gwaith ar y fferm gyda’i swydd fel Arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc yn Llanfynydd.Anwen Griffiths, 28 oed, o Benparc ger Aberteifi ydy'r ferch arall.
Hefyd o Geredigion yn ail gyfres Fferm Ffactor mae Phillip Reed (42) a gafodd ei enwebu i’r gystadleuaeth gan ei ferch. Mae Phillip yn byw ym Mlaenannerch gyda’i wraig a thri o blant.
Mae Teifi Jenkins, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi yn ffermio da a gwartheg ar ei fferm deuluol ger Castell Newydd Emlyn. Teifi yw’r cystadleuydd ieuengaf yn y gystadleuaeth yn 27 oed ond mae’n hyderus ei fod yn gallu cipio’r wobr.
Eraill fydd yn cystadlu yn Fferm Ffactor 2010 fydd Aeron Pughe (29) o Fachynlleth, sy’n cyfuno gwaith ffarm gyda bywyd roc a rôl fel aelod o’r band, Hufen Iâ Poeth, a Huw Thomas Jones, sy’n 39 oed o Lwyngwril, ger Dolgellau. Mae Huw o’r farn fod safon y gystadleuaeth eleni yn uwch nag erioed.
Ymunwch yn yr hwyl bob nos Iau am 20:25 neu am fwy o fanylion ewch i’r wefan: s4c.co.uk/ffermffactor
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?