Mewn rhaglen arbennig ar S4C am 21:00 nos Fawrth 20 Ebrill, cafwyd y newyddion a’r dadansoddi diweddaraf o effeithiau ffrwydrad y llosgfynydd yng Ngwlad Yr Iâ. Pam fod y llwch wedi achosi’r fath argyfwng? Am faint mae’n debygol o barhau? Angharad Mair fydd yn holi arbenigwyr yn y maes, yn ogystal â’r Cymry sy’n methu dod adref o wledydd tramor.