Enillodd rhaglenni S4C 14 o wobrau yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru gan gynnwys yr actor gorau, yr actores orau, y cyfarwyddwr gorau a’r awdur gorau ar gyfer y sgrin.
Cyflwynwyd un o wobrau arbennig y noson Gwobr Gwyn Alf Williams i’r rhaglen ddogfen Dwy Wraig Lloyd George, a gynhyrchwyd gan Tinopolis ac a gyflwynwyd gan Ffion Hague.
Enillodd y ffilm Ryan a Ronnie, a gynhyrchwyd gan Boomerang Plus, bedair gwobr gan gynnwys yr actor gorau i Aled Pugh am ei bortread o’r diddanwr Ryan Davies, yr awdur gorau ar gyfer y sgrin i Meic Povey a’r cyfarwyddwr gorau:drama i Rhys Powys.
Eiry Thomas, a gymerodd ran Jane Jones yn y ddrama bwerus, Cwcw enillodd y wobr am yr actores orau. Enillodd y ffilm, a wnaethpwyd gan Fondue Films, y wobr am y trac sain gerddorol wreiddiol orau hefyd.
Enillodd y ddrama ddogfen Carwyn, am fywyd Carwyn James a’r ffilm Ar y Tracs a sgriptiwyd gan Ruth Jones o Gavin and Stacey ddwy wobr yr un. Cipiodd Ar y Tracs, cynhyrchiad Tidy Productions a Greenbay Media, y sain gorau a’r gwisgoedd gorau. Enillodd Carwyn y cyfarwyddwr gorau i Dylan Richards a’r ddrama ddogfen orau.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydw i’n falch iawn fod cynifer o raglenni S4C wedi ennill yng Ngwobrwyon BAFTA Cymru eto eleni. Mae’n deyrnged ddisglair i ymroddiad a gallu ein sector cynhyrchu bod cymaint o’n rhaglenni wedi llwyddo ar y noson. Hoffwn eu llongyfarch i gyd am eu llwyddiant.”
Gwobrau S4C yn llawn:
Yr Adloniant Ysgafn Gorau
Dudley – Pryd o Sêr (Rondo Media)
Y Sain Gorau
Ar y Tracs (Tidy Productions/Green Bay Media)
Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau
Cwcw (Fondue Films)
Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau
Carwyn (Green Bay Media)
Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama
Ryan a Ronnie (Boomerang Plus)
Y Cyfarwyddwr Goleo Gorau – Dim Camera
Cyngerdd Dathlu Karl Jenkins (Rondo Media)
Yr Awdur Gorau ar gyfer y Sgrin
Ryan a Ronnie – Meic Povey (Boomerang Plus)
Y Gwisgoedd Gorau
Ar y Tracs (Tidy Productions/Green Bay Media)
Teitlau Gorau
Y Daith (Rough Collie)
Gwobr Gwyn Alf Williams
Dwy Wraig Lloyd George (Tinopolis)
Y Cyfarwyddwr Gorau: Drama
Ryan a Ronnie – Rhys Powys (Boomerang Plus)
Y Cyfarwyddwr Gorau
Carwyn – Dylan Richards (Green Bay Media)
Yr Actor Gorau
Ryan a Ronnie – Aled Pugh (Boomerang Plus)
Yr Actores Orau
Cwcw – Eiry Thomas(Fondue Films)
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?