Mae wedi bod yn wythnos anodd iawn i Ifan Jones Evans, Erwyd Howells a’r holl griw sydd wedi bod yn ail-greu taith arbennig Y Porthmon Dafydd Isaac – dros 100 milltir o Fachynlleth i Aberhonddu – ar gyfer cyfres o raglenni nosweithiol ar S4C.
Ymysg y gwynt, y glaw a’r heulwen, mae Ifan ac Erwyd wedi llwyddo i gyrraedd pen y daith yng ngwesty’r Castell yn Aberhonddu gyda’u cŵn – Nan a Cab – a phraidd o ddefaid.
Ond nid yn unig y tywydd wnaeth achosi ambell i broblem i borthmon S4C. Drwy newid y praidd o ddefaid yn eithaf rheolaidd yn ystod y siwrne, doedd dim sicrwydd pa mor wyllt oedden nhw i fod - gan achosi ambell i gur pen i’r tîm o ffermwyr ifanc wnaeth ymuno ar y daith.
A bu traed Ifan yn achosi poen iddo hyd yn oed ar ail ddiwrnod y daith.
Esbonia Ifan, sy’n fab ffarm o Bont-rhyd-y-groes, “Roedd yn rhaid newid y ‘sgidie prynhawn Mawrth ac ers hynny mae wedi bod yn haws. Mae gen i ambell i flister ar fy nhraed erbyn hyn ond mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Rhyw ffordd a drwy ryw rhyfedd wyrth dwi wedi cyrraedd pen y daith o’r diwedd!”
Ar ddiwrnod olaf y daith, roedd hi’n gymal anodd dros fynydd Epynt rhwng Abergwesyn ac Aberhonddu. Ond unwaith eto roedd croeso a chefnogaeth y gymunedau lleol yn anhygoel.
“Dwi wedi cael cefnogaeth fendigedig gan y cymunedau ar hyd y ffordd felly diolch yn fawr iawn am ddod allan i weld fi - rydych chi gyd wedi bod yn ysbrydoliaeth,” meddai Ifan.
Ychwanega Erwyd, “Dwi wedi mwynhau’r wythnos yn fawr iawn - mae wedi bod yn anodd ar adegau ac yn bleserus ar adegau eraill. Pwy all gwyno wrth gerdded heibio rhai o olygfeydd gorau Cymru? Mae’r gefnogaeth ar hyd y ffordd wedi bod yn anhygoel hefyd ac mae’n rhaid canmol y ffermwyr ifanc sydd wedi helpu ni ar hyd y daith gyda phob un ohonynt yn rhoi eu holl ymdrech mewn i’r dasg wrth law.”
Gallwch ddilyn taith Y Porthmon heno (nos Wener am 20:25) a nos Sadwrn ar S4C. I ddal i fyny gyda holl benodau’r gyfres gallwch wylio eto ar s4c.co.uk/clic.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?