Mewn cyfres o raglenni byrion o’r enw Dwi’n Cofio ar S4C bydd pobl Cymru yn rhannu eu hatgofion arwyddocaol o’r 50 mlynedd diwethaf.
Bydd y ffilmiau byrion, sydd tua munud o hyd, yn crisialu moment o hanes cymuned neu’r genedl. Mae’n gyfle i wylwyr hel atgofion pwysig o’r hanner canrif ddiwethaf.
Bydd Dwi’n Cofio yn cael ei darlledu rhwng rhaglenni arferol S4C am dair wythnos gan ddechrau nos Lun 6 Medi.
Mae’r pytiau yn cyd-fynd â’r ddrama newydd Pen Talar sy’n dechrau ar S4C nos Sul 12 Medi am 21:00. Mae’n dilyn taith dau ffrind dros hanner canrif, drwy un o gyfnodau mwyaf tymhestlog hanes Cymru.
Un o’r rhai sy’n yn rhannu ei hatgofion at Dwi’n Cofio yw Mairwen Jones, sy’n cofio pan ddaeth Dafydd Iwan i ganu yn Ysgol Camael, Sir Benfro ar 12 Medi 1968.
“Dyna’r tro cyntaf i mi ei weld yn canu,” meddai Mairwen, “Gath e gymaint o argraff arna i. Dyna’r tro cyntaf i fi glywed caneuon protest, ac i sylweddoli fod cymaint o frwydr gyda ni o ran yr iaith.”
Tra mai gêm bêl-droed ar Barc Ninan sy’n aros yng nghof Alun Charles o’r un diwrnod yn 1971. Mae’n ail fyw gôl wefreiddiol Brian Clark a roddodd y fuddugoliaeth i Gaerdydd dros gewri Real Madrid.
Mae diwrnod cyntaf Ysgol Gymraeg Casnewydd ym mis Medi 1993 ac ymweliad y Pab John Paul II â Chymru yn 1982 yn enghreifftiau eraill o atgofion arwyddocaol sy’n cael eu rhannu yn y gyfres.
Beth yw eich atgofion mwyaf chi o’r hanner canrif ddiwethaf? Mae Wedi 7 am eu clywed. Cysylltwch â thîm Dwi’n Cofio drwy wefan s4c.co.uk/wedi7 neu drwy ffonio 01554 880 880 rhwng 9:00am a 6:00pm.
diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?