Dros fil yn cael rhagflas o raglenni’r hydref ar S4C
13 Medi 2010
Bu dros fil o bobl yn mynychu digwyddiadau arbennig a drefnwyd gan S4C ledled Cymru yn ystod y deg diwrnod diwethaf i hybu tair cyfres newydd ar y sianel yn yr hydref.
Dangoswyd rhagflas o’r ddrama newydd bwerus Pen Talar i gynulleidfaoedd yng Nghil y Cwm, lle ffilmiwyd rhannau o’r gyfres, Caerdydd, Brynaman, Aberystwyth, Dolgellau, Dinbych, Crymych, Y Tymbl ac Aberaeron, Coleg Menai, Bangor a saith o ysgolion uwchradd.
Mynychwyd blaen ddangosiad o Pen Llŷn Harri Parri ym Mynytho gan tua dau gant o bobl a bu dros gant yn gwylio rhagflas o Byw yn ôl y Llyfr ym Machynlleth a Llangernyw.
Mae Pen Talar ymysg y dramâu mwyaf uchelgeisiol ar S4C. Mae’r gyfres yn dilyn dau deulu sy’n byw mewn pentref dychmygol yng ngorllewin Cymru dros gyfnod o hanner canrif. Richard Harrington, Ryland Teifi a Mali Harries yw prif sêr y gyfres.
Mae’r cyn-weinidog ac awdur Harri Parri yn teithio o gwmpas ei gynefin yn Pen Llŷn Harri Parri a Bethan Gwanas a Tudur Owen sy’n mynd nôl i fyw yn yr oes Fictoraidd yn Byw yn ôl y Llyfr.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r ffaith ein bod wedi bod yn crwydro Cymru yn y deg diwrnod diwethaf ac wedi dangos rhai o’n rhaglenni i dros fil o bobl yn eu hardaloedd yn brawf o ymrwymiad S4C i gwrdd â phobl yn eu cymunedau.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?