Mewn ymateb i gais gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon mae S4C yn cadarnhau fod dogfen yn ymwneud â thoriadau posib i gyllideb y Sianel wedi ei hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol.
Mae’r ddogfen yn delio â 3 mater yn benodol, effeithiau arbed 10% y flwyddyn nesaf, ac effeithiau cwtogi 25% neu 40% rhwng 2011-2014.
Fodd bynnag mae Awdurdod S4C yn pwysleisio mai ymateb technegol i gais penodol gan yr Adran yw’r ddogfen. Mae Awdurdod S4C yn gweithredu o fewn fframwaith statudol o ran cyflawni ei ddyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd yr Awdurdod i’r gynulleidfa ac i amddiffyn y Sianel a darlledu yn yr iaith Gymraeg.
Bydd S4C yn gwneud cynnwys yr adroddiad i’r Adran yn gyhoeddus maes o law.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?