09 Medi 2010
Mae Shane Williams, asgellwr Cymru a’r Gweilch a chyn Chwaraewr y Flwyddyn yr IRB, wedi datgelu ei fod yn bwriadu ymddeol o rygbi rhyngwladol yn dilyn Cwpan y Byd 2011.
Gallwch weld Shane yn cadarnhau ei gynlluniau mewn cyfweliad gyda Rhodri Ogwen Williams ar raglen gyntaf cyfres newydd S4C Rygbi a Mwy, fydd yn cael ei darlledu nos Wener 10 Medi, 21:00. Mae Shane Williams wedi awgrymu sawl gwaith ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i’r gêm ryngwladol ond nid yw wedi cadarnhau ei fwriad i ymddeol - tan nawr.
Mae Rygbi a Mwy yn gyfle i wylwyr ddysgu mwy am eu hoff chwaraewyr rygbi o’r degawdau diwethaf, gan gynnwys Stephen Jones, Gareth Edwards, Clive Rowlands, Gwyn Jones, Gareth Davies ac Ieuan Evans.
Yn ystod y cyfweliad dadlennol, mae Shane Williams yn dweud y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu'r tymor hwn i geisio sicrhau lle ar yr awyren i Seland Newydd gyda gweddill carfan Cymru.
Gyda sawl asgellwr ifanc a thalentog yn dechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru ar hyn o bryd, mae Shane Williams yn teimlo y bydd hydref 2011 yn amser da i gamu o’r llwyfan rhyngwladol.
“Wy eisiau penderfynu pryd wy’n rhoi’r gorau i chwarae - wy ddim ishe i rywun arall wneud y penderfyniad drosto i. Os caf i fy newis i chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd, yna dyna fydd y tro olaf y byddaf yn gwisgo’r crys coch,” meddai Shane Williams.
Penderfynodd Shane beidio â mynd ar daith haf Cymru er mwyn rhoi amser i anaf wella’n iawn fel y gallai fod yn gwbl holliach erbyn dechrau’r tymor presennol. Mae’n dweud bod hynny wedi ei wneud yn fwy penderfynol nag erioed i chwarae ar ei orau'r tymor hwn.
Dechreuodd Shane ei yrfa gyda chlwb rygbi Castell-nedd yn 1998 ac yn fuan daeth yn rhan annatod o dîm rhyngwladol Graham Henry yn 2000. Roedd Shane hefyd yn rhan allweddol o fuddugoliaethau’r Gamp Lawn yn 2005 a 2008 ac yn aelod o garfan y Llewod yn 2005 a 2009.
Yn ystod y gyfres, bydd y cyflwynydd Rhodri Ogwen Williams yn ymuno â’i westeion arbennig ar daith yn ôl i ardal eu mebyd er mwyn gweld y balchder sydd yn y cymunedau am lwyddiant eu harwyr rygbi. Mae hefyd yn ymuno â’r chwaraewyr wrth iddyn nhw ddatgelu rhai o’u diddordebau oddi ar y cae rygbi.
Bydd y gwylwyr hefyd yn cael cyfle i weld ochr arall i gymeriad Shane Williams. Bydd yr asgellwr yn gwireddu uchelgais wrth rasio ei gar Jaguar cyflym o amgylch trac rasio Pen-bre, ac a wyddoch chi fod y dewin bach yn hoff o arlunio pan nad yw’n ochrgamu o amgylch y gwrthwynebwyr ar y cae rygbi?
Gareth Edwards: Rygbi a Mwy
Nos Wener 17 Medi 21:00, S4C
Isdeitlau Saesneg