Arddangos talent Cymru mewn cyngerdd arbennig ar S4C
12 Hydref 2010
Mae Alex Jones yn dychwelyd i Gymru ym mis Hydref, am y tro cyntaf ers iddi ddechrau ei swydd newydd fel cyflwynydd The One Show, i gyflwyno cyngerdd arbennig wedi ei lwyfannu gan S4C i groesawu rhai o lwyddiannau mwya’ rhaglenni teledu talent nôl i Gymru.
Bydd Alex, 32, a ddechreuodd ei gyrfa ar S4C ac sydd wedi cael ei chanmol am ei gwaith yn cyflwyno rhaglen gylchgrawn y BBC, yn cyflwyno dathliad o artistiaid Cymreig welwyd ar wahanol raglenni talent yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn y gyngerdd, sy’n cael ei chynnal yn Arena Ryngwladol Caerdydd ar 24 Hydref, bydd Alex yn cyflwyno perfformiadau gan Rhydian Roberts, seren X-Factor 2007, a Shaheen Jafargholi a ganodd yng nghyngerdd goffa Michael Jackson a gafodd ei ddarlledu o amgylch y byd yn dilyn ei ymddangosiad ar Britain's Got Talent yn 2009.
Mae enwau mawr eraill sy’n cymryd rhan yn y gyngerdd yn cynnwys seren y West End a rownd derfynol Eurovision - Your Country Needs You, Mark Evans; Sophie Evans, ddaeth yn ail yng nghyfres talent y BBC, Over the Rainbow; Tara Bethan, a gafodd ei chanmol am ei pherfformiadau ar y gyfres realiti I’d Do Anything yn 2008; a Laura Sutton a gyrhaeddodd y rownd derfynol Stars in Their Eyes ar ITV yn 2005.
Hefyd, bydd perfformiadau gan Gôr Ysgol Glanaethwy, a ddaeth yn ail yn Last Choir Standing ar y BBC; a grwpiau dawns Jukebox Juniors ac Eclipse o Got to Dance Sky 1 a Starburst a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Britain's Got Talent eleni.
Mae tocynnau’r gyngerdd yn rhad ac am ddim. I archebu eich tocyn ewch i www.livenation.co.uk/cia neu ffoniwch swyddfa docynnau Arena Ryngwladol Caerdydd ar 029 2022 4488. Bydd y gyngerdd yn cael ei darlledu ar S4C dros y Nadolig. Cyfyngir nifer o docynnau i 4 bob archeb.
Mae'r noson yn cael ei drefnu gan gwmni cynhyrchu Avanti, cwmni sydd â phrofiad helaeth mewn ffilmio cyngherddau a digwyddiadau mawr.
Dywedodd Emyr Afan, cyfarwyddwr Avanti: “Mae hwn yn gyfle unigryw i ddathlu’r amrywiaeth anhygoel o dalent Cymreig sydd wedi dod i’r amlwg yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd gweld yr holl berfformwyr disglair yma gyda'i gilydd yn adloniant pur o'r dechrau i'r diwedd.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?