Mae S4C yn lansio estyniad cyffrous i’r gwasanaeth arloesol i blant meithrin, Cyw.
O ddydd Sadwrn 23 Hydref, bydd nifer oriau’r gwasanaeth meithrin yn ehangu wrth i Cyw gael ei ddarlledu ar benwythnosau am y tro cyntaf.
Yn ystod Clwb Cyw, a ddarlledir ar S4C rhwng 07:00 a 09:00 bob bore Sadwrn a Sul, bydd y cyflwynydd Gareth Delve yn teithio i ysgolion a meithrinfeydd gan gwrdd â phlant bach Cymru. Bydd y boreau yn llawn hwyl, canu a rhaglenni sy’n cydio yn nychymyg plant meithrin, wrth i’r gwylwyr chwarae rhan fawr yn y gwasanaeth - ar deledu neu dros y we.
Yn ystod oriau arferol Cyw (07:00 - 13:30) o ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd dau wyneb newydd - Einir Dafydd a Trystan Ellis-Morris - yn ymuno â Rachael Solomon i gyflwyno rhaglenni newydd a gwreiddiol, yn ogystal â rhai o hoff raglenni'r plant lleiaf.
Ymysg y rhaglenni newydd bydd Rapsgaliwn, cyfres sy’n dilyn rapiwr direidus wrth iddo ddarganfod rhyfeddodau'r byd o'i gwmpas. Bydd Y Diwrnod Mawr, rhaglenni dogfen am ein gwylwyr ifanc, yn dychwelyd am ail gyfres. Bydd cyfresi poblogaidd fel Holi Hana, Sali Mali, Cei Bach, Twm Tisian ac ABC – enillydd gwobr RTS – hefyd yn cael eu darlledu ar Cyw.
Bydd gwefan ddwyieithog gyffrous 3D – s4c.co.uk/cyw – yn llawn gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni yn cyd-fynd â’r gwasanaeth teledu.
Yn ôl Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, "Bydd gwasanaeth newydd Cyw yn parhau i ddal yn nychymyg a brwdfrydedd bywiog plant meithrin o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Yn wahanol i’r arfer bydd yr arlwy ar gael ar benwythnosau hefyd.
"Bydd y gwylwyr yn gallu mynd ar daith i fyd Cyw ar deledu ac ar y we fel defnyddwyr, cyfranwyr a chyd-gyflwynwyr. Dychmygwch y profiad unigryw o gamu i fyd hudolus Cyw lle byddant yn canu a dawnsio, chwarae gemau fydd yn ysgogi dychymyg a synhwyrau, yn ogystal â gwylio'r llu o raglenni sydd ar gael."
Clwb Cyw
Sadwrn a Sul, 23 a 24 Hydref 07:00 – 9:00, S4C
Cyw
Llun – Gwener 07:00 – 13:30, S4C
Gwefan: s4c.co.uk/cyw
Ar Alw: s4c.co.uk/clic
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?