Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010 yw Elgan Llŷr Thomas sy’n 20 oed ac yn dod o Graig-y-Don, Llandudno.
Ar ddiwedd noson wych o gystadlu ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, a oedd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C nos Sul 17 Hydref, cyhoeddodd Cadeirydd y Panel Beirniaid, Tudur Dylan Jones, mai Elgan oedd wedi cipio’r Ysgoloriaeth, sy’n werth £4,000. Dywedodd ei bod wedi bod yn gystadleuaeth agos, ond bod y beirniaid yn unfrydol mai Elgan oedd yn haeddu’r wobr bwysig hon eleni.
Roedd Elgan yn amlwg mewn sioc wrth glywed ei fod wedi dod i’r brig, a dywedodd ei bod yn fraint i ennill yr Ysgoloriaeth. Roedd yn edmygydd mawr o Bryn Terfel, meddai. Ei fwriad yw gwario’r £4,000 ar ei astudiaethau fel myfyriwr cerdd yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion. Mae’n gobeithio datblygu gyrfa ym myd yr opera, gan hefyd efallai gymryd rhan mewn sioeau cerdd yn y West End yn y dyfodol.
Mentor Elgan ar gyfer y gystadleuaeth oedd Rhydian Roberts, a ddaeth i enwogrwydd, wrth gwrs, trwy gystadleuaeth yr X-factor. “Roedd y dosbarth meistr gyda Rhydian yn wych,” meddai Elgan. “Roedd yn brofiad swreal ond roedd yn arbennig o werthfawr.”
diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?