03 Mehefin 2011
Eleni mae’r gyfres grefyddol ac ysbrydol Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dathlu hanner canrif o ganu a mawl gyda chystadleuaeth arbennig i nodi’r achlysur.
Ar faes Eisteddfod yr Urdd ar ddydd Gwener 3 Mehefin cyhoeddodd S4C gystadleuaeth cyfansoddi emyn dôn i gyd fynd â geiriau gan y Prifardd Siôn Aled sydd wedi eu cyfansoddi’n arbennig ar gyfer y dathlu.
Roedd hi’n addas fod y gystadleuaeth wedi ei chyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd Abertawe a’r Fro gan mai o’r ddinas honno y daeth y rhaglen gyntaf erioed yn 1961, gydag oedfa yng nghapel Y Trinity.
Mae gwobr o £300 i’r emyn dôn fuddugol ac yn beirniadu bydd cyflwynydd y gyfres a’r cerddor adnabyddus Alwyn Humphreys; y cantorion Rhys Meirion a Margaret Williams; a Catrin Hughes, arweinydd côr Cantata, dan gadeiryddiaeth Golygydd Cynnwys Diwilliant S4C, Rob Nicholls.
Bydd yr emyn newydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf mewn Cymanfa arbennig i ddathlu pen-blwydd Dechrau Canu Dechrau Canmol ar 2 Hydref. Bydd y Gymanfa yng Nghapel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth dan ofal yr arweinydd rhyngwladol Owain Arwel Hughes.
“Mae’r gystadleuaeth yma yn gyfle i ddathlu carreg filltir arbennig iawn yn hanes un o gyfresi hynaf S4C. Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn un o brif raglenni’r Sianel ac yn parhau mor boblogaidd heddiw a phan ddaeth hi i’r sgrin gyntaf hanner canrif yn ôl. Diolch i Siôn Aled am eiriau’r emyn ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn y cynigion ar gyfer y dôn, ac i glywed y gwaith buddugol am y tro cyntaf ym mis Hydref,” Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C.
Y dyddiad cau yw dydd Gwener 16 Medi, a dylech anfon eich cynigion at:
Emyn Dathlu,
Dechrau Canu Dechrau Canmol,
Lancaster House,
Maesycoed Road,
Caerdydd,
CF14 4TT
neu at dechraucanudechraucanmol@avantimedia.tv.
Mae rhagor o fanylion, ynghyd â rheolau’r gystadleuaeth, i’w gweld ar wefan Dechrau Canu Dechrau Canmol – s4c.co.uk/dechraucanu.
Diwedd
Geiriau’r Emyn:
Dduw’r galaethau oll a’r gwagle
â’i bellteroedd uwchlaw rhif,
awdur deddfau dirgel amser
na all neb wyrdroi ei lif,
mymryn bach yw’n daear ninnau’n
cylchu un o’r heuliau lu,
seren sydd ond pigyn golau
yn trywanu’r gofod du.
Ond fe geraist rai fel ninnau
er ein bai o oes i oes
a choroni’r cariad hwnnw
dan y drain yn ing y groes,
ac fe geraist tithau’n daear
er ein difaterwch ni
a’n glythineb wrth in sathru
cyfoeth hardd dy gread di.
Dduw’r bydysawd, Arglwyd daear,
cofia Gymru brin ei ffydd:
na foed methiant ddoe yn esgus
i osgoi sialensiau’n dydd.
Er dy fawredd cyfaill ydwyt
a chyd-deithiwr yn ein gwaith
o ailgynnau gobaith beiddgar
ar ein darn o’th gread maith.
Siôn Aled, 2011