17 Ionawr 2011
Y gyfres ddrama arloesol ac uchelgeisiol, Pen Talar, yw un o 13 enwebiad i S4C yng ngwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2011 a gynhelir yn Stornoway, Yr Alban ym mis Ebrill.
Mae’r gyfres, gafodd ei hysgrifennu gan Siôn Eirian ac Ed Thomas, yn bortread gafaelgar o gwlwm cyfeillgarwch oes rhwng Defi Lewis, ei ffrind gorau Doug Green a’i chwaer Siân mewn drama am gredu a charu, cyfeillgarwch a pherthyn.
Dyma’r tro cyntaf i’r ddrama, a gynhyrchwyd gan Fiction Factory, gael ei henwebu am wobr. Mae siwrnai Pen Talar yn ein tywys o dwf cenedlaetholdeb yn y 1960au i bleidlais ‘Na’ Datganoli 1979 ac o Streic y Glowyr 1984 i bleidlais ddramatig Datganoli 1997 ac i Gymru 2010. Enwebwyd Pen Talar yng nghategori Cyfres Ddrama.
Mae Ryan a Ronnie, ffilm bwerus a gynhyrchwyd gan Boomerang+ gydag Aled Pugh a Rhys ap Hywel yn chwarae’r ddeuawd eiconig, wedi’i henwebu yn y categori Drama Sengl Hir. Enillodd y ffilm bedair gwobr BAFTA Cymru yn 2010.
Enwebwyd rhaglen deyrnged i’r bardd ac Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Dic Jones – Yn Ei Eiriau Ei Hun, yn y categori Celfyddydau. Cynhyrchwyd y rhaglen arbennig gan P.O.P. 1. Mae rhaglen ddogfen sy’n dilyn taith y côr Only Men Aloud – O Dredegar Newydd i Efrog Newydd (cynhyrchiad Boomerang+) hefyd wedi’i henwebu yn yr un categori.
Stori emosiynol a grymus sy’n dilyn teulu o Gymru i’r Almaen i ddarganfod mwy am ddioddefaint erchyll eu perthnasau yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück. Mae cynhyrchiad Rondo Media wedi’i enwebu yng nghategori rhaglenni Ffeithiol Sengl.
Enwebwyd y rhaglen Ras yn Erbyn Amser, cynhyrchiad P.O.P. 1, yn dilyn y gyflwynwraig Lowri Morgan wrth iddi baratoi i redeg Marathon y Jwngl yn yr Amazon a’r gyfres Sgota gyda Julian Lewis Jones (Telesgop), yn y categori Chwaraeon.
Yn ogystal, mae trel chwaraeon yr Haka wedi derbyn enwebiad yng nghategori’r Ymgyrch Marchnata. Mae’r hysbyseb, sy’n gweld dyfarnwyr criced yn ail greu’r Haka gan ddefnyddio arwyddion dyfarnwyr criced, wedi cipio gwobrau yn Promax UK a Gwobrau Georges Bertellotti Golden Podium yng nghynhadledd Sportel.
Daw enwebiad hefyd i Tir Cymru – O Dan yr Wyneb (cynhyrchiad Aden) sy’n dilyn taith arbennig y naturiaethwr Iolo Williams wrth iddo archwilio tirweddau Cymru o dan y môr a’r ddaear yn ogystal ag ar y tir mawr.
Enwebwyd Taro Naw, cynhyrchiad BBC Cymru, yn y categori Materion Cyfoes.
Cyfres arobryn i blant meithrin yw Y Diwrnod Mawr, a gynhyrchwyd gan Ceidiog, ac un o’r enwebiadau yn y categori Plant. Mae’r gyfres, a dorrodd dir newydd ym myd teledu plant gyda’r gyfres gyntaf erioed o raglenni dogfen i blant meithrin, eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth ar lefel rhyngwladol gydag enwebiadau BAFTA Plant UK a Rose d’Or.
Yn y categori Addysg, enwebwyd y gyfres RhyfeddOD (Cwmni Da) – rhaglen llawn arbrofion, gwyddoniaeth a ffeithiau difyr. Mae’r gyfres meithrin Cei Bach (Sianco) wedi derbyn enwebiad yn y categori Rhyngweithio.
Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Geraint Rowlands, “Mae’r rhestr enwebiadau cynyrchiadau S4C yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn adlewyrchiad o’r amrywiaeth a’r safon rhaglenni sydd yn cael eu cynnig i’n gwylwyr. Mae’n deyrnged arbennig i dalent greadigol, ymroddiad a gallu pob un sy’n gyfrifol am gael y rhaglenni yma ar y sgrin.”
Diwedd