Profwch eich gwybodaeth chwaraeon cyffredinol wrth i S4C drefnu pedwar cwis arbennig ledled Cymru i hyrwyddo darpariaeth chwaraeon y sianel.
Y cyflwynydd chwaraeon Gareth Roberts a chyn-glo Cymru, Derwyn Jones, fydd yn cynnal y nosweithiau yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn (24 Ionawr), Clwb Rygbi Abercwmboi (25 Ionawr), Clwb Rygbi Bae Colwyn (26 Ionawr) a Chlwb Rygbi Llangefni (27 Ionawr) gyda phanel o selebs Cymraeg yn herio tri aelod o'r cymunedau lleol yn y cwis chwaraeon unigryw.
Bydd aelodau o'r gynulleidfa hefyd yn cael cyfle i ymuno yn yr hwyl a’r miri - trwy gymryd rhan mewn rhai agweddau ar y cwis, gofyn cwestiynau i'r panel a chael cyfle i ennill tocynnau i weld tîm Warren Gatland yn un o'u gemau paratoi Cymru cyn Cwpan y Byd yn yr haf.
Ymysg yr enwogion fydd yn cymryd rhan ar y daith fydd Shane Williams, Nicky Robinson, John Hartson, Malcolm Allen, Gareth Davies, Dot Davies, Lowri Morgan, Dylan Ebenezer, Morgan Jones, Rhys ap William, Julian Lewis Jones a Nigel Owens.
Mae’r noson gwis yn dechrau am 19:30 ac mae’n rhad ac am ddim. Ni fydd y noson yn cael ei darlledu ond gall ymddangos ar wefan S4C.
Bydd darpariaeth chwaraeon S4C yn ehangu ym mis Chwefror gyda darllediadau byw o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a gêm Cymru dan 20 yn erbyn Lloegr yng nghwmni tîm Y Clwb Rygbi Rhyngwladol.
Mae Shane Williams a Derwyn Jones yn uno i sefydlu a hyfforddi tîm ieuenctid yr Aman yn y gyfres Clwb Rygbi Shane (1 Chwefror). Cawn ddilyn datblygiad y garfan dros gyfnod o flwyddyn, ond ar gychwyn y tymor newydd, sut siâp fydd i’r tîm ieuenctid ac a oes modd ail greu llwyddiannau’r gorffennol unwaith eto? Dyw hi ddim yn edrych yn debygol pan fo’r garfan yn colli’n drwm yn erbyn Abercraf yn eu gêm gyntaf yn yr haf a’r diffyg disgyblaeth yn amlwg - a yw’r her yn ormod i Shane a Derwyn?
Bydd Sgorio hefyd yn darlledu gêm gyntaf Gary Speed yng ngofal Cymru yn fyw wrth iddynt herio Gweriniaeth Iwerddon mewn cystadleuaeth newydd ar 8 Chwefror.