Bydd Wedi 7 heno (nos Fercher 2 Chwefror am 19:00) yn talu teyrnged arbennig i’r actores Margaret John, fu farw heddiw yn 84 oed.
Bu farw Margaret yn ei chwsg yn Ysbyty Singleton Abertawe wedi cyfnod byr o salwch.
Gyda gyrfa o dros 50 mlynedd, fe wnaeth Margaret ychydig o bopeth - o radio i deledu, ffilmiau a rhannau yn y theatr. Mae pobl yn cofio Margaret yn bennaf am chwarae rhan Doris yn y gyfres gomedi poblogaidd Gavin and Stacey. Roedd ganddi hiwmor gwych ac fe chwaraeodd nifer o rannau comedi yn ystod ei gyrfa gan gynnwys cyfres gomedi BBC Cymru High Hopes, Little Britain a The Mighty Boosh.
Ym mis Mai 2009 fe dderbyniodd wobr Cyflawniad Oes Bafta Cymru.
Ei ymddangosiad olaf ar deledu oedd yn y ddrama Alys ar S4C. Roedd hi hefyd yn rhan o gast y ffilm Ar y Trac: Y Trên i’r Gêm a ddarlledwyd ar 1 Ionawr 2011.
Ar Wedi 7 heno, bydd cyn-bennaeth drama BBC Cymru John Hefin, a’i chyd actorion Rhian Morgan a Dafydd Hywel yn talu teyrnged iddi.
Mae S4C yn cydymdeimlo â theulu Margaret John.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?