Eleni, mae dyn tywydd S4C Chris Jones yn dathlu 20 mlynedd o gyflwyno’r tywydd ar y Sianel.
I gofnodi’r garreg filltir, bydd Chris, sydd yn gerddwr brwd, yn cerdded ar hyd llwybr enwog yr Inca i ddinas hynafol Machu Picchu ym Mheriw. Bydd y daith gerdded, rhwng 5 a 15 Mai, er budd elusen Canolfan Ganser Felindre, elusen sy’n agos at ei galon.
“Allwn i ddim gwrthod y cynnig i fod yn rhan o’r daith gerdded i Machu Picchu. Mae’r ddinas Incaidd yn uchel ym mynyddoedd yr Andes wedi fy swyno ers dyddiau’r ysgol ac mae Canolfan Ganser Felindre wedi bod yn gefn mawr i’n teulu ni,” meddai Chris, a fydd yn cael cwmni ei fam-yng-nghyfraith ar y daith.
“Cafodd fy mam, fy nhad a’n nhad-yng-nghyfraith driniaeth heb ei hail yno. Roeddwn i’n teimlo y byddai codi arian i’r Ganolfan Ganser yn ffordd briodol o nodi fy ugain mlynedd yn cyflwyno’r Tywydd.”
Yn ystod ei 20 mlynedd ar y sgrin, mae Chris wedi gweld newid mawr yn y ffordd mae’r tywydd yn cael ei gyflwyno, a’i bwysigrwydd i wylwyr.
“Mae’r tywydd yn bwysicach i wylwyr nawr nag oedd e ugain mlynedd yn ôl. Ma’ pobl heddi ishe gwybodaeth fanwl am y tywydd ac mae’r dechnoleg wedi datblygu llawer i ddarparu hyn.
“Ar y dechrau, doedd dim cyfrifiaduron, a bydden i yn gorfod mynd i gwrdd â’r arbenigwyr ar ben to eu swyddfeydd yng nghanol Caerdydd er mwyn casglu’r wybodaeth ar gyfer y dydd. Erbyn hyn mae’r holl wybodaeth ar gael ar gyfrifiadur, a’r dechnoleg newydd yn gallu rhoi darlun cliriach nag erioed,” meddai Chris.
Yn ogystal â’r bwletinau cyson ar y sgrin, mae gwefan tywydd S4C – s4c.co.uk/tywydd - yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd yng Nghymru i fanylder o 1km. Rhowch eich côd post yn y blwch ac fe gewch chi’r newyddion tywydd diweddaraf am eich ardal.
Mae’n anochel bod Chris wedi magu diddordeb mawr yn y tywydd wedi ugain mlynedd o’i gyflwyno.
“Dwi’n dipyn o geek tywydd i ddweud y gwir,” mae’n cyfaddef. “Dwi wastad yn cadw llygaid ar dywydd eithafol ar draws y byd, fel corwyntoedd ac eira trwm. Un peth fydden ni wrth fy modd yn ei wneud ydy mynd i ddilyn corwyntoedd mewn llefydd fel Nebraska yn yr UDA.”
Am y tro, mae’n canolbwyntio ar ei daith i wlad Periw, a’r ymdrech i godi arian i Ganolfan Ganser Felindre. Gallwch noddi Chris drwy’r www.justgiving.co.uk/chris-jones11
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?