Mae ffilm feithrin S4C wedi ennill gwobr ryngwladol yn KidScreen, cynhadledd teledu plant fwyaf blaenllaw'r byd, sy’n cael ei chynnal yn Efrog Newydd.
Y ffilm deledu Ble Mae Cyw? ddaeth i’r brig yn y categori meithrin Best One-Off, Special or TV Film yn y seremoni wobrwyo KidScreen neithiwr (Nos Iau 17 Chwefror). Bu’n cystadlu yn erbyn cynhyrchiad The Adventures of Charlotte and Henry (a gynhyrchwyd gan Optimistic Pictures) o Awstralia.
Mae'r ffilm - a gynhyrchwyd gan gwmni Boomerang+ ar gyfer gwasanaeth meithrin ddyddiol S4C, Cyw - yn dilyn rhai o gymeriadau meithrin mwyaf poblogaidd y sianel wrth iddynt geisio dod o hyd i Cyw sydd wedi diflannu.
Meddai Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, Siân Eirian,: "Mae S4C yn falch iawn i ennill y wobr hon ac i gael eu hystyried ochr yn ochr â chynnwys i blant gorau ar draws y byd. Mae’r wobr KidScreen yn gydnabyddiaeth ryngwladol o’r hyn mae S4C a’r cynhyrchwyr yng Nghymru yn gyflawni ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarlledu rhaglenni plant o’r safon uchaf.”
Meddai Angharad Garlick o gwmni Boomerang+, cyd-gynhyrchydd y ffilm fuddugol, “Mae Boomerang yn ymfalchïo yn ein cyfraniad yn y maes meithrin ac yn ymfalchïo hefyd yn ein tîm sy’n arbenigo yn y maes.”
Mae cynhadledd KidScreen yn cael ei hystyried yn ddigwyddiad pwysig o fewn y diwydiant ac mae’r gwobrau wedi denu enwebiadau o bob cwr o’r byd.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?