Cyfnod ymgynghorol S4C a’r cynhyrchwyr wedi dechrau
22 Mawrth 2011
Bydd S4C a’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn cynnal cyfres o gyfarfodydd dros y pythefnos nesaf fel rhan o’r broses ymgynghorol ynglŷn â phatrwm darlledu S4C o 2012 i 2015.
Dechreuodd y broses gyda chyfarfod adeiladol rhwng swyddogion S4C a thasglu o TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) ddydd Llun 21 Mawrth a bydd nifer o gyfarfodydd yn dilyn gyda chynhyrchwyr unigol yn swyddfeydd y Sianel yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
Cyflwynodd S4C opsiynau ynglŷn â’r patrwm darlledu i’r cwmnïau cynhyrchu mewn cyfarfod yn Llandrindod yn ddiweddar. Gosodwyd amserlen i’r broses ymgynghorol a gwahoddwyd y cwmnïau i roi eu sylwadau i S4C erbyn diwedd Mawrth. Cyhoeddwyd hefyd y byddai cyfnod ymgynghorol pellach wedyn i’r cwmnïau gwrdd wyneb yn wyneb yn unigol gyda S4C.
Ar ddiwedd y broses ymgynghorol bydd yna ymgynghori pellach gyda gwylwyr S4C a bydd yn rhaid i Awdurdod S4C roi sêl bendith ar unrhyw gynllun terfynol.
Mae’r pedwar opsiwn a gyflwynwyd yn Llandrindod yn seiliedig ar waith ymchwil trwyadl gan S4C er mwyn cwrdd â gofynion darlledwr cyhoeddus.
Mae’n gyhoeddus bod y Sianel yn wynebu toriadau o hyd at 25%. ‘Rydym yn gweithio gyda’r sector gynhyrchu i geisio gwneud toriadau a chynnal ansawdd ein rhaglenni a’n gwasanaeth. Mae S4C eisoes wedi cyhoeddi bydd hyd at 40 o swyddi yn cael eu colli o fewn y Sianel ac yn ogystal mae adolygiad cyflawn o weithgareddau a gweinyddiaeth fewnol y Sianel yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?