Mae mwy o bobl nag erioed yn dewis gwylio rhaglenni S4C drwy’r gwasanaeth ar alw Clic – s4c.co.uk/clic.
Ers dechrau 2011, mae gwefan Clic wedi derbyn 19,631 o ymweliadau yr wythnos ar gyfartaledd, sydd yn cymharu â 13,176 yr un cyfnod y llynedd. Mae hyn yn gynnydd o dros 6,000 o ymweliadau ar gyfartaledd yr wythnos.
Dywedodd Meirion Davies, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro S4C. “Yn gynyddol, mae pobl yn troi at ddulliau amgen o wylio cynnwys. Mae’r rhan fwyaf o raglenni S4C ar gael i’w gwylio arlein ar Clic am hyd at 35 diwrnod yn dilyn y darllediad cyntaf ar deledu, sy’n rhoi hyblygrwydd i wylwyr ddewis a dethol pryd i wylio ein rhaglenni, ac yn fodd i gynulleidfa ehangach i fanteisio ar ein gwasanaethau.”
Ers 17 Chwefror 2011, mae’n bosib chwilio am raglenni S4C ar wasanaeth iPlayer y BBC. Gallwch chwilio a dewis rhaglenni S4C ar yr iPlayer fydd yna yn eich tywys at safle Clic er mwyn eu gwylio.
Mae ystadegau cynnar yn awgrymu fod y fenter newydd ar y cyd gyda’r BBC wedi llwyddo i ddenu mwy fyth o wylwyr at safle Clic.
Yn ystod yr wythnos cyn lansio gwasanaeth newydd hwn gydag iPlayer (10 i 16 Chwefror) roedd 49% o’r ymweliadau â safle Clic wedi dod o safle y tu allan i wefan S4C. Doedd dim wedi dod yno o safle iPlayer.
Yn yr wythnos yn dilyn y lansio (17 i 23 Chwefror) roedd 60% o ymweliadau Clic wedi dod o wefannau y tu allan i safle S4C, gyda 21% wedi dod drwy’r iPlayer.
Ychwanega Meirion Davies. “Rydym yn croesawu canlyniadau’r ymchwil cynnar sy’n awgrymu fod y cydweithrediad â iPlayer wedi llwyddo i ddenu rhagor o wylwyr i safle Clic.
“Mae’r fenter wedi darparu platfform newydd a phorth mynediad ar gyfer ein rhaglenni a’n gwasanaethau ac yn agor drysau wrth i ni gynllunio ar gyfer datblygu ymhellach yn y dyfodol.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?