Heddiw (Gwener, 18 Mawrth), bydd y cyflwynydd anturus Lowri Morgan yn cychwyn taith epig fydd yn gwthio ei chorff i’r eithaf yn nhymheredd oer a chreulon yr Arctig.
Ras 6633 Ultra yw’r sialens sy'n wynebu Lowri. Bydd disgwyl iddi deithio 350 o filltiroedd dros gyfnod o wyth diwrnod a byw'n gwbl hunangynhaliol. Mae’r ras ymhlith yr anoddaf yn y byd a bydd Lowri’n brwydro yn erbyn tymheredd oddeutu -30˚C i -40˚C.
Dim ond pum person sydd erioed wedi llwyddo i gwblhau’r ras ers ei chychwyn yn 2007 a menyw sy’n dal y record orau ar hyn o bryd.
Dyma benllanw flwyddyn hir a chaled o hyfforddi i Lowri. Er mwyn ceisio dygymod â’r fath amgylchiadau, mae Lowri wedi bod yn hyfforddi’n galed, yn rhedeg pellteroedd o 140 milltir yr wythnos, yn profi tymheredd oer Sweden ac yn dod i arfer â’r holl offer fydd angen arni.
Gallwch ddilyn ei siwrnai i’r Arctig, o’r paratoadau cynnar i’r ras fawr, mewn cyfres newydd o Ras yn Erbyn Amser (Nos Iau 24 Mawrth).
Am fwy o fanylion am y ras a’r gyfres, ewch i wefan Ras yn Erbyn Amser.
Bydd Lowri yn codi arian at elusen Shelter Cymru wrth redeg y ras. Gallwch ei noddi drwy ymweld â gwefan Shelter Cymru.
Ras yn Erbyn Amser
Nos Iau 24 Mawrth 20:25, S4C
Hefyd, nos Wener 25 Mawrth 21:50, S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?