Bydd cyfle i wylwyr fwynhau uchafbwyntiau ecsgliwsif ar deledu daearol o gêm ragbrofol Ewro 2012 rhwng Cymru a Lloegr ar S4C am 20:30 nos Sadwrn (26 Mawrth).
Yn y rhaglen Sgorio: Cymru v Lloegr, cyflwynir uchafbwyntiau estynedig o’r ornest yn Stadiwm y Mileniwm gyda’r lle dan ei sang, yn ogystal â chyfweliadau a dadansoddi wedi’r chwiban olaf.
Morgan Jones fydd wrth y llyw yng nghwmni’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Dai Davies a John Hartson, gyda Dylan Ebenezer a Malcolm Allen yn sylwebu.
Mae modd i wylwyr di-Gymraeg fwynhau’r uchafbwyntiau gyda sylwebaeth Saesneg ar Sky, drwy wasgu’r botwm coch. Matthew Jones - cyn-chwaraewr Cymru, Caerlŷr a Leeds - fydd yn ymuno â John Hardy i sylwebu yn Saesneg.
Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar bob cyfrwng.
Mae darllediadau rheolaidd o bêl-droed cartref a rhyngwladol i’w gweld ar S4C yn y gyfres Sgorio. Bob prynhawn Sadwrn, mae S4C yn darlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru neu Gwpan Cymru, yn ogystal â gwasanaeth canlyniadau di-dor.
Nos Lun, bydd rhaglen gynhwysfawr yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau’r penwythnos ac yn cynnwys y gorau o’r clybiau Cymreig yn Uwch Gynghrair y Blue Square, yn ogystal â goliau La Liga a Serie A.
Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwasanaeth ar-lein S4C ar gael drwy Brydain.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?