Rapsgaliwn yn Recordio Fersiwn Newydd o Hei Mistar Urdd
09 Mai 2011
Mae dau o gymeriadau mwyaf poblogaidd plant Cymru wedi dod at ei gilydd i recordio fersiwn newydd o anthem fytholwyrdd Urdd Gobaith Cymru, Hei Mistar Urdd ar gyfer fideo trawiadol newydd.
Mae’r rapiwr bywiog Rapsgaliwn a Mistar Urdd wedi ffilmio fideo bop i gydfynd â’r gân yng Ngerddi’r Castell, Abertawe gan y bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn y ddinas rhwng 30 Mai a 4 Mehefin.
Bydd S4C yn defnyddio’r fideo fel ffilm hysbysebu i dynnu sylw at ddarllediadau byw ac uchafbwyntiau cynhwysfawr y Sianel o ŵyl ieuenctid fwya’ Ewrop. Bydd yr hysbyseb yn cael ei dangos ar y Sianel am y tro cyntaf heno (nos Lun 9 Mai).
Mae S4C a’r Urdd wedi dod ynghyd i recordio fersiwn newydd o’r gân Hei Mistar Urdd sydd wedi bod yn anthem i genedlaethau o blant ers iddo gael ei ryddhau gyntaf yn 1976. Ond mae’r fersiwn newydd yn rhoi blas yr 21ain ganrif i’r gân gydag un o gymeriadau mwyaf lliwgar gwasanaeth teledu plant S4C, Cyw, Rapsgaliwn, yn serennu.
Bydd y fideo ar gael i’w lawrlwytho ar wefannau urdd.org/eisteddfod ac s4c.co.uk.
Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C: “Rydym yn falch iawn o gael cyfle i gydweithio gyda’r Urdd ar fersiwn newydd o gân a fideo Mistar Urdd. Mae’n denu ynghyd un o arwyr mwyaf eiconig plant Cymru ac un o gymeriadau newydd gwasanaeth teledu arloesol S4C, Cyw. Mae’n dangos pa mor agos yw ein perthynas ni gyda’r Urdd wrth inni baratoi ar gyfer un o ddigwyddiadau mawr ein calendr blynyddol.”
Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae cân glasurol Mistar Urdd wedi bod yn ffefryn gyda phlant ym mhob rhan o Gymru ers blynyddoedd mawr. Mae cynhyrchu fersiwn newydd o’r gân, ynghyd a rhyddhau fideo gyda Rapsgaliwn a Mistar Urdd, yn ychwanegu at y cyffro yn Abertawe a mannau eraill wrth i’r ŵyl nesáu.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?