04 Gorffennaf 2011
Mae S4C heddiw wedi datgelu enwau’r wyth person adnabyddus fydd yn treulio wythnos ddwys yn dysgu Cymraeg mewn gwersyll ecogyfeillgar yn Sir Benfro ar gyfer cyfres S4C, cariad@iaith:love4language.
Yr wyth dysgwr a fydd yn treulio’r wythnos yn wynebu heriau ieithyddol yng ngwersyll trawiadol fforest, Cilgerran, Sir Benfro yw:
• Lembit Öpik, cyn-Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Sir Drefaldwyn
• Melanie Walters, actores o Abertawe’n wreiddiol, sydd fwyaf adnabyddus am ei chymeriad Gwen yn y gyfres gomedi “Gavin & Stacey”
• Helen Lederer, awdures ac actores gomedi sy’n wreiddiol o Lanymddyfri
• Rhys Hutchings, sy’n rhan o’r grŵp hip-hop “Goldie Lookin’ Chain” ac yn dod o Gasnewydd
• Sophie Evans, cantores o Donypandy, sy’n rhannu’r rhan Dorothy yn sioe “Wizard of Oz” yn y West End
• Matt Johnson, cyflwynydd dyddiol “OK TV” a chyfrannwr wythnosol i raglen deledu “This Morning”
• Colin Charvis, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, a chwaraewr i’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.
• Josie d’Arby, cyflwynydd teledu ac actores o Gasnewydd
Fe fyddan nhw’n cyrraedd y gwersyll ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf.
Bydd y camerâu’n dilyn y dysgwyr Cymraeg newydd wrth iddynt astudio Cymraeg am bedair awr bob dydd o dan arweiniad y cyflwynydd a’r tiwtor iaith Nia Parry a’r tiwtor iaith blaenllaw Ioan Talfryn.
Fe fydd y gyfres, a ddarlledir dros wythnos gyda Gareth Roberts yn cyflwyno, yn dilyn y sêr mewn sioeau nosweithiol awr o hyd.
Mae’r wythnos, sy’n dechrau gyda rhaglen i lansio’r gyfres ar S4C nos Wener 8 Gorffennaf, yn cyrraedd ei hanterth gyda seremoni wobrwyo arbennig nos Wener 15 Gorffennaf.
Bydd y sioe yn cyd-fynd ag Wythnos Dysgu Cymraeg S4C pan fydd y Sianel yn cydweithio gyda sefydliadau, newyddiadurwyr a chwmnïau i greu mwy o ddiddordeb fyth yn yr iaith Gymraeg. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal rhwng 4 ac 8 Gorffennaf.
Mae’r gyflwynwriag fyrlymus a’r tiwtor iaith Nia Parry yn edrych ymlaen yn arw at sialens y gyfres cariad@iaith:love4language.
Meddai Nia Parry, "Mae’r sêr sy’n cymryd rhan yn gymysgedd liwgar, ddeinamig o bobl adnabyddus. Mae ganddyn nhw eu rhesymau personol eu hunain dros ddysgu Cymraeg ond fe allaf eich sicrhau eu bod i gyd yn gystadleuol ac yn frwd iawn. Fe ddylai fod yn wythnos ddiddorol iawn i ni a’n gwylwyr ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y profiad."
Bydd Nia ac Ioan yn defnyddio techneg ddysgu Cymraeg o’r enw 'TPR storytelling', dull a gafodd ei ddatblygu yn yr Unol Daleithiau sy’n defnyddio gweithgareddau corfforol gyda’r pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth.
"Fe fyddai llawer yn dweud bod gweld y sêr yn adloniant pur ond mae’r dull yma o ddysgu yn ffordd newydd, ddyfeisgar o ddysgu ieithoedd a fydd hefyd yn ddifyr i’w gwylio. Mae yna neges bwysig yma hefyd wrth gwrs – mae’n bosibl i unrhyw un ddysgu Cymraeg a chael hwyl wrth ddysgu," meddai Nia, sy’n byw ger Caernarfon, Gwynedd.
Bydd canolfan fforest – sy’n cynnig profiadau gwersylla ac awyr agored ychydig yn wahanol – yn lleoliad gwych ar gyfer y gyfres.
Ychydig o gyswllt gyda’r byd tu allan fydd gan y sêr yn ystod yr wythnos ond bydd gan y sêr yr hawl i drydar, blogio a defnyddio Facebook. Fe ddylai hynny fod yn ddeunydd darllen difyr i syrffwyr.
Bydd y gwylwyr gartre' hefyd yn gallu dilyn y sêr yn cael eu gwersi ar wefan S4C, s4c.co.uk.
Cwmni cynhyrchu Fflic, sy’n rhan o grŵp Boomerang+, fydd yn gyfrifol am gynhyrchu’r gyfres o raglenni byw, uchafbwyntiau a gweddarlledu.
Cafodd cyfres flaenorol o cariad@iaith:love4language ei darlledu rai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth Tanni Grey-Thompson, Janet Street-Porter, Ruth Madoc, Steve Strange, Jamie Shaw, Bernard Latham ac Amy Wadge ynghyd ar gyfer arhosiad dramatig yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn.
cariad@iaith:love4language
Yn dechrau nos Wener 8 Gorffennaf 20:25, S4C ac yn parhau bob nos o nos Sul 10 i nos Wener 15 Gorffennaf
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk/cariadatiaith
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Fflic, rhan o Boomerang+, ar gyfer S4C