Casgliad o ffilmiau cynnar S4C i’w cadw yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
02 Awst 2011
Mae casgliad pwysig o raglenni a ffilmiau cynnar S4C yn mynd i gael eu cadw ar gyfer y dyfodol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Cyhoeddodd S4C ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru heddiw eu bod wedi dod i drefniant ynglŷn â’r casgliad o ffilm ac elfennau cysylltiedig sy’n rhan o archif S4C yn ei phencadlys yng Nghaerdydd, gyda'r bwriad o sicrhau dyfodol hirdymor y casgliad.
Mae'r casgliad yn cwmpasu amrywiaeth o raglenni ac elfennau a phrintiau ffilm ac yn gasgliad sy’n adlewyrchu cyfnod eang a genres amrywiol- o gyfres ddogfen dyddiau cynnar S4C Mwynhau’r Pethe, i ffilmiau nodedig fel Hedd Wyn a Solomon a Gaenor a chynyrchiadau animeiddio fel Gogs a Gŵr y Gwyrthiau.
Meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, “Mae arbenigaeth staff yr Archif wrth drin a thrafod ffilm yn hanfodol ac yn bwysig wrth geisio asesu a diogelu’r casgliad, tra bod lleoli’r casgliad yn Aberystwyth yn sicrhau fod yr Archif hefyd yn gallu cael mynediad i’r deunydd ar gyfer gweithgareddau ymchwil ac addysgiadol.”
Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn gartref i gasgliadau cyfoethog a dihafal o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a’r Cymry.
Meddai Dafydd Pritchard, Rheolwr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, “Mae’r Archif yn hynod o falch o allu cydweithredu gydag S4C yn y gwaith hwn fydd yn diogelu’r casgliadau i’r dyfodol, ac, yn y pen draw, yn caniatau mynediad ehangach i’r cyhoedd.”
Ymholiadau’r Wasg:
Anwen Pari Jones, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru : 01970 632535/07977 287215 anwen.jones@llgc.org.uk neu Mansel Jones, S4C: 029 2074 1451/07889 103743 mansel.jones@s4c.co.uk