Mae S4C wedi lansio’r ap tywydd mwyaf blaengar ym Mhrydain ar gyfer yr iPhone. Mae’r ap yn defnyddio grid rhagolygon 1 cilomedr unigryw S4C, gwasanaeth sydd wedi ei drwyddedu oddi wrth Weather Central, cwmni rhagolygon tywydd wedi ei leoli yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r data 1 cilomedr yn galluogi defnyddwyr yr ap i dderbyn rhagolygon tywydd manwl ar gyfer yr union le maent ynddo yn hytrach na rhagolygon ar gyfartaledd neu o orsaf tywydd pell i ffwrdd fel yn achos aps eraill yn y Deyrnas Unedig.
Weather Central yw’r unig gwmni sy’n cynnig rhagolygon tywydd 1 cilomedr yn y byd a S4C yw’r darlledwr cyntaf yn y DU i’w ddarlledu. Enillodd cwmni Tinopolis y cytundeb i gyflenwi gwasanaeth tywydd S4C y llynedd ac mae’r gwasanaeth newydd wedi bod ar y sgrin ers mis Tachwedd diwethaf.
“Mae’r ap tywydd yn ychwanegiad gwerthfawr a chyffrous i wasanaethau S4C, ac yn brawf o’n bwriad i fod ar flaen y gad yn y byd technegol i gynnig y gwasanaeth tywydd gorau posib i bobl Cymru,” meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Geraint Rowlands.
“Pan agorwch chi’r ap fe gewch y tywydd ar gyfer eich union leoliad, nid rhywbeth 20 milltir i ffwrdd,” meddai Huw Marshall, uwch gynhyrchydd gwasanaeth tywydd S4C. “Mae’n wasanaeth personol iawn. Gellir defnyddio’r iPhone drwy gyfrwng geo locationing neu chwilio am ragolygon y tywydd drwy enw lle neu gôd post. Unwaith y dechreuwch ei ddefnyddio byddwch yn rhyfeddu sut y buoch yn gwneud hebddo yn y gorffennol.
“Yn ystod Gorffennaf ail-lansiwyd gwefan tywydd S4C gan ddefnyddio symbolau photorealistic a welir hefyd yn yr ap iPhone. Mae'r rhain nawr wedi eu hymgorffori yn ein bwletinau ar y sgrin sy’n ein galluogi i gyfleu stori’r tywydd mewn ffordd glir a chywir ar bob platform,” meddai Huw. “Rydym ni yn Tinopolis a’n partneriaid yn Weather Central bob amser yn ceisio arloesi a datblygu ein gwasanaeth tywydd.”
“Rydym yn hapus dros ben bod S4C wedi penderfynu arwain gyda’r gwasanaeth tywydd symudol arloesol hwn,” meddai Chip Mobley, Is Lywydd Weather Central.” Mae’n gosod S4C ar flaen y gad yn fyd eang ac mae datblygiadau cyffrous yn cymryd lle fel rhan o’r gwasanaeth drwy’r amser.”
Mae’r ap dwy-ieithog, y gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ar gael ar yr Apple App Store ar http://tinyurl.com/tywydd
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?