S4C yn cadarnhau manylion cronfa cyd-gynhyrchu newydd
19 Gorffennaf 2011
Mae S4C wedi cadarnhau manylion cronfa newydd heddiw i gefnogi cyd-gynyrchiadau ym maes teledu.
S4C Digital Media Ltd, is-gwmni masnachol S4C, fydd yn gweithredu’r gronfa gyd-gynhyrchu ar sail fasnachol.
Bydd SDML yn buddsoddi £1m yn y gronfa i ddechrau ac yn ei chynyddu gyda £1m bob blwyddyn am y tair blynedd nesaf.
Bydd arian y gronfa ar gael i’w fuddsoddi mewn cyd-gynyrchiadau i’w darlledu ar S4C, cynyrchiadau ar gyfer S4C wedi’u cydgyllido, cynnwys neu fformatau i S4C sydd â photensial masnachol ac ar gyfer masnacheiddio cynnwys S4C neu frandiau a chymeriadau cysylltiedig.
Ymhlith amcanion y gronfa mae creu elw masnachol ar fuddsoddiadau i SDML, denu cyllid ychwanegol o ffynonellau gwahanol ar gyfer cynnwys ac annog cwmniau cynhyrchu i fod yn fwy cystadleuol.
Fel canllaw cyffredinol, bydd SDML yn gwneud buddsoddiadau unigol o’r gronfa rhwng £50,000 a £200,000 ac ni fydd y gronfa’n buddsoddi mwy na 15% o gyfanswm y gyllideb ar gyfer cynhyrchiad. Gall y gronfa wneud buddsoddiadau uwch o dan amgylchiadau arbennig yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd SDML.
Dywedodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, “Rwyf yn gobeithio bydd y gronfa gyd-gynhyrchu yn gwneud y defnydd gorau o’r arian masnachol er mwyn rhoi hwb a chefnogaeth i gwmnïau cynhyrchu feddwl yn uchelgeisiol am gynnwys tuag at y dyfodol.”
Gall ymgeiswyr gysylltu â SDML drwy e-bost ar cydgynhyrchu@s4c.co.uk
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?