17 Hydref 2011
Rhannodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, ei weledigaeth o’r Sianel mewn pedair blynedd mewn araith i’r Sefydliad Materion Cymreig heddiw (Mawrth 18 Hydref).
Yn ôl Huw Jones bydd S4C yn gorff llai ond mwy effeithiol erbyn 2015.
“Fe fydd yn gorff aml-gyfryngol ac yn gyfrifol am gomisiynu a darlledu cynnwys gwreiddiol fydd yn gyfraniad pwysig i ddiwylliant deniadol a chyfoethog drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg,” meddai Huw Jones. “Fe fydd yn hwyluso mynediad i’r gwasanaeth i’r rhai hynny sydd ddim yn siarad Cymraeg.
“Fe fydd yn bartner effeithiol i’r BBC - gan reoli ei hun ond gan fod yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am ei ddefnydd o arian y drwydded ac i’r Llywodraeth am yr arian cyhoeddus arall.”
O safbwynt yr iaith, yn economaidd ac yn ddiwylliannol bydd S4C yn dal i chwarae rhan hollbwysig ym mywyd y genedl.
Dywedodd Huw Jones y byddai S4C yn y flwyddyn 2015 ‘yn rhan annatod o ddatblygiad a pharhad y Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad economaidd a diwylliannol pellgyrhaeddol.’
Meddai, “Fe fydd yn parhau’n sylfaen gadarn i’r diwydiant cynhyrchu annibynnol yng Nghymru a fydd, yn ei dro, yn gynyddol lwyddiannus mewn marchnadoedd ehangach.”
Wrth gyfeirio at y trafodaethau rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ynglŷn â threfniant ariannu, llywodraethu a rheoli’r Sianel o 2013-14 ymlaen, dywedodd Huw Jones nad oedd yn credu ‘ei bod hi ar ben ar annibyniaeth S4C’ yn y drefn newydd.
“Dwi’n credu ei bod hi’n bosib, trwy barhau i drafod, i ddod i gytundeb a fydd ar y naill law yn cydnabod y ffaith y bydd mwyafrif cyllid S4C o 2013 ymlaen yn dod o ffi’r drwydded deledu ac, ar y llaw arall, fod yna ymrwymiad i S4C barhau i fod ag annibyniaeth weithredol a golygyddol, tra’n creu partneriaeth ymarferol newydd gyda’r BBC,” meddai.
Mae dwyster y trafodaethau rhwng y tri pharti yn dangos ‘pa mor ddidwyll y mae’r ymdrechion ar y ddwy ochr i ddod i ganlyniad sydd yn parchu’r egwyddorion sy’n sylfaenol i’r ddau gorff,’ meddai.
“Un o’r pethau hanfodol bwysig yng ngolwg S4C yw medru dangos yn glir, o dan y drefn newydd, y bydd gan S4C y gallu i wneud ei benderfyniadau terfynol ei hun ar faterion gweithredol yn ogystal â golygyddol, er enghraifft wrth ystyried argymhellion ynglŷn â dulliau gwahanol o weithredu a bod ei swyddogion gweinyddol ei hun sydd yn rhydd i bwyso a mesur gwerth pob argymhelliad o’r math, o safbwynt y budd y gallith ei gynnig i wasanaeth S4C ac i wylwyr S4C.”
Eisoes yn 2011 mae S4C wedi colli £11m o’i gymharu â’r cyllid oedd ar gael yn 2010. O’i gymharu â’r hyn y byddai S4C wedi’i dderbyn o dan y Ddeddf Ddarlledu mae’r toriad yn £14.5m. Y flwyddyn nesaf, 2012, bydd yr incwm lawr i £83m a bydd yn aros ar y lefel yna heb gynnydd chwyddiant am ddwy flynedd arall. Mae S4C yn wynebu toriad o tua 36% yn ei hincwm erbyn 2015 o’i gymharu â’r hyn fyddai wedi cael ei gynhyrchu gan fformiwla’r Ddeddf bresennol, sef cynnydd yn ôl chwyddiant.
Yn fewnol mae nifer sylweddol o arbedion eisoes wedi cael eu gweithredu a bydd cynlluniau ariannol S4C erbyn 2014 yn galluogi’r sianel i gyrraedd lefel o doriadau ar gostau mewnol fydd, fel canran, yn cyfateb i’r toriadau cyllid rhaglenni.
Meddai Huw Jones, “Ar hyn o bryd, does yna ddim math o sicrwydd ynglŷn â’r cyllid allai fod ar gael y tu hwnt i 2015 ac mae ‘na negeseuon cymysg wedi cael eu rhoi ynglŷn â phwy a sut y bydd yna benderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â’r cyllido y tu hwnt i hynny. Ar y naill law, mae’r cytundeb newydd rhwng y Llywodraeth a’r BBC yn datgan mai mater i’r BBC fydd penderfynu ar lefel cyllido S4C allan o’r drwydded deledu ar ôl 2015. Ar y llaw arall, mae’r Llywodraeth ei hun wedi cyflwyno gwelliant i’r Mesur Cyrff Cyhoeddus sydd yn dweud y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn parhau i fod â’r cyfrifoldeb o sicrhau fod yna gyllid digonol i’w gael ar gyfer S4C i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaeth statudol. Rydan ni eisoes wedi datgan ein pryder am y negeseuon cymysg hyn.
“Be ‘dan ni gyd yn ei wybod wrth gwrs ydy nad oes modd i’r BBC wneud unrhyw ymrwymiad y tu hwnt i 2017 oherwydd dyna pryd y mae’r Siarter Frenhinol bresennol yn dod i ben. Ond efallai ei bod hi o fewn gallu'r BBC i roi ymrwymiad ariannol allan o arian y drwydded deledu i S4C a fydd yn golygu sicrwydd ariannol o’r ffynhonnell honno tan 2017, a hefyd i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w gwneud hi’n hollol glir ei fod o ddifri’ ynglŷn â’i fwriad i sicrhau cyllid digonol i S4C - o fwy nag un ffynhonnell - er mwyn rhoi sefydlogrwydd ariannol i S4C hyd at 2017.
“Gellid gwneud y ddau ymrwymiad yma o fewn amserlen y cytundeb rhwng S4C a’r BBC pe bai yna awydd cyffredinol i argyhoeddi pobl Cymru fod dyfodol S4C yn saff yn ariannol, er ar lefel lawer is nag o’r blaen, tan 2017. Cyn hynny hefyd, fe fydd yna Ddeddf Gyfathrebu newydd i’w chyflwyno yn ystod bywyd y Senedd hon, a chyfle yn y fan honno i ystyried eto’r seiliau statudol a roddir i’r gwasanaeth.
“O gael yr elfennau yma ynghyd felly, ein hamcan ni yw y bydd ein trafodaethau’n dwyn ffrwyth, y bydd yna gytundeb sy’n gwarchod annibyniaeth S4C tra’n sicrhau atebolrwydd i’r BBC am ddefnydd o arian y drwydded deledu, y bydd yna bartneriaeth ymarferol ffrwythlon, ac hefyd sicrwydd ariannol hyd at 2017. O gael cytundeb ar y materion hyn, yr addewid a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yw y bydd yna wedyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyfle i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc fynegi barn a dweud a yw’r cytundeb yn cyflawni'r hyn maen nhw’n ei ystyried sy’n bwysig fel sylfaen i wasanaeth teledu Cymraeg llwyddiannus.”
Diwedd