Bydd rhai o sêr y gyfres Cariad@Iaith:Love4Language ar S4C yn crwydro strydoedd Y Fenni dros y penwythnos mewn gwisgoedd anarferol wrth iddynt hyrwyddo ymgyrch newydd ar y sianel.
Dydd Sadwrn (27 Awst), bydd y cyflwynwyr Matt Johnson (This Morning ar ITV ac OK TV! ar Sianel 5) a Josie d’Arby (BBC Plant Mewn Angen) yn ymuno â’r cyn-wleidydd Lembit Opik yn y dref farchnad i ffilmio cyfres o hysbysebion doniol.
Bydd cyn-gapten rygbi Cymru, Colin Charvis, a’r actores Melanie Walters yng nghanol dinas Abertawe ar ddydd Mawrth (30 Awst). Rhys Hutchings, un o aelodau Goldie Lookin Chain a’r digrifwraig Helen Lederer yw’r ddau fydd yng Nghasnewydd a Glyn Ebwy yn ffilmio ar ddydd Mercher (31 Awst).
Mae’r ymgyrch newydd yn hyrwyddo hygyrchedd y sianel i bawb – boed yn medru siarad Cymraeg ai beidio. Bydd yr hysbysebion hefyd yn cyfeirio at wasanaethau mynediad y sianel, gan gynnwys isdeitlau, Clic – y gwasanaeth ar alw ar-lein a’r mathau o raglenni sydd ar gael i wylio ar S4C.
Bydd yr ymgyrch gyda sêr Cariad@Iaith:Love4Language i’w weld ar y teledu ac i’w glywed ar y radio o 16 Medi.
Ar ddiwedd Medi bydd S4C yn dychwelyd i’r ardal i gynnal llu o weithgareddau dwyieithog yn yr ardal ar gyfer y gymuned gyfan.
Ymhlith y digwyddiadau, sy’n rhad ac am ddim, bydd cwis dafarn, noson o fwyd yng nghwmni’r cogydd adnabyddus Dudley Newbery a Noson Gwylwyr S4C – fydd yn rhoi cyfle i bobl yr ardal i ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?