Bydd tri threlar gwerth dros £10,000 ar gael i’w hennill mewn cystadleuaeth arbennig ar y gyfres Ffermio ar S4C.
Mae’r gyfres wledig a gynhyrchir gan Teledu Telesgop yn cynnig trelar gwartheg TA510 gwerth £4,956 fel gwobr gyntaf, trelar ceffylau HB506 gwerth £4,656 fel ail wobr a threlar P6E gwerth £804 fel trydedd wobr. Cwmni Ifor Williams Trailers o Gorwen sy’n cynhyrchu’r trelars ac yn eu cyfrannu i’r gyfres.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar Ffermio nos Lun nesaf 19 Medi am 20:25. Gofynnir i wylwyr ateb cwestiwn ar ddiwedd bob rhaglen dros wyth wythnos a bydd llythyren gyntaf bob ateb yn datgelu gair wyth llythyren.
Mae’r gystadleuaeth wedi denu ymateb cryf bob blwyddyn ar Ffermio yn y gorffennol ac mae cwmni Telesgop yn disgwyl ceisiadau ar draws y Deyrnas Unedig.
Meddai Gwawr Lewis, cynhyrchydd Ffermio, “Mae’r trelars yn wobrwyon da dros ben ac rydym yn hynod ddiolchgar i Ifor Williams Trailers.
“Mae diddordeb mawr yn y gystadleuaeth - mae miloedd yn cystadlu bob blwyddyn drwy’r wefan a thrwy’r post. Mae’n amlwg fod y gwylwyr yn gwerthfawrogi’r gystadleuaeth gan fod y nifer sy’n cystadlu’n cynyddu bob blwyddyn. Gan fod modd gweld rhaglenni S4C tu allan i Gymru mae gennym lawer o wylwyr ar draws y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Iorwerth Roberts, pennaeth gwerthiant Ifor Williams Trailers, eu bod fel cwmni yn gwerthfawrogi’r berthynas gyda Ffermio.
Meddai, “Roeddem yn hynod falch o gael y cyfle i gyd-weithio gyda Ffermio eto eleni. “Cawsom gefnogaeth ardderchog gan ein cwsmeriaid dros lawer o flynyddoedd ac felly teimlwn ei bod yn bwysig i gefnogi'r gymdeithas wledig - mae Ffermio wedi rhoi cyfle arbennig i ni roi rhywbeth yn ôl.”
Gwyliwch Ffermio bob nos Lun am 20:25 am fanylion sut i gystadlu.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?